Neidio i'r prif gynnwy

Eich canlyniadau

Ein nod yw anfon yr holl ganlyniadau drwy'r post, o fewn pedair i chwe wythnos. Bydd eich canlyniadau hefyd yn cael eu hanfon at eich meddyg.

Os nad ydych wedi derbyn llythyr ar ôl chwe wythnos, cysylltwch â'ch practis meddygon teulu. Os nad ydych yn dymuno derbyn eich canlyniadau drwy'r post, dywedwch wrth y sawl sy’n cymryd y sampl yn ystod eich apwyntiad.

 

Canlyniadau posib

Nid yw 9 o bob 10 canlyniad yn dangos HPV risg uchel.

 

Ni ddarganfuwyd unrhyw HPV risg uchel (HPV negatif)

Mae hyn yn golygu eich bod yn wynebu risg isel iawn o ddatblygu canser ceg y groth.  Byddwn yn eich gwahodd am brawf sgrinio arall ymhen pum mlynedd.

Oherwydd llwyddiant ac effeithiolrwydd profion HPV, mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wedi argymell ei bod yn ddiogel i raglenni sgrinio serfigol wahodd pob merch a pherson sydd â cheg y groth rhwng 25 a 64 oed i gael eu sgrinio bob pum mlynedd, os nad oes ganddynt HPV yn eu sampl.

 

Canfuwyd HPV risg uchel (HPV positif) ond nid oes newidiadau i’r celloedd

Os oes gennych HPV risg uchel, byddwn yn edrych ar eich sampl i weld a oes newidiadau i’r celloedd.  Os na fyddwn ni’n gweld newidiadau i’ch celloedd, byddwch yn cael eich gwahodd am brawf arall ymhen 12 mis. Mae hyn oherwydd bod y mwyafrif o bobl yn gwaredu’r feirws ar eu pennau eu hunain o fewn dwy flynedd.

Os byddwch yn parhau i brofi’n bositif am HPV ar gyfer eich dau brawf sgrinio blynyddol nesaf, byddwn yn eich gwahodd i gael prawf colposgopi i archwilio ceg y groth, hyd yn oed os nad oes gennych newidiadau i’ch celloedd.

 

Darganfod HPV risg uchel (HPV positif) a newidiadau i’r celloedd

Os oes gennych HPV risg uchel a newidiadau i’r celloedd, byddwn yn eich cyfeirio at glinig ysbyty arbenigol o'r enw colposgopi.   

Cael rhagor o wybodaeth am y clinig colposgopi.

Dyskaryosis yw'r enw ar y newidiadau i’r celloedd hyn. Mae'r newidiadau fel arfer yng nghelloedd y croen (cennog) sy'n gorchuddio’r tu allan i geg y groth. Weithiau, byddan nhw yn y celloedd y tu mewn i geg y groth, a elwir yn gelloedd chwarennol.

 

Nid oedd modd profi ar gyfer HPV

Mae hyn yn golygu nad oedd y labordy yn gallu rhoi canlyniad dibynadwy oherwydd nad oedd modd gweld digon o gelloedd. Bydd angen ailadrodd y prawf sgrinio ar ôl tri mis. 

Mae'n bwysig cael eich sgrinio eto.

Cael rhagor o wybodaeth am eich canlyniadau.

Cwestiynau Cyffredin.