Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru. Gall sgrinio serfigol atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei godi yn gynnar. Bydd y prawf taeniad yn edrych am fathau risg uchel o HPV a all achosi newidiadau i gelloedd. Trwy ddod o hyd i newidiadau i gelloedd yn gynnar, gall sgrinio atal canser ceg y groth rhag datblygu. Gwahoddir menywod ac unigolion â cheg y groth rhwng 25 a 64 oed am sgrinio serfigol yng Nghymru.