Bydd pedwar o bob pump ohonom yn cael HPV ar ryw adeg yn ein bywydau. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf ohonom yn clirio'r feirws yn naturiol o fewn dwy flynedd. Os bydd haint HPV yn parhau, gall weithiau achosi newidiadau i gelloedd serfigol a allai, os byddant yn cael eu gadael heb eu trin, arwain at ganser ceg y groth. Gan ein bod wedi nodi bod gennych HPV o hyd, rydym wedi eich atgyfeirio i glinig colposgopi er mwyn gwirio eich ceg y groth am unrhyw newidiadau.
Na, mae eich sgrinwyr wedi gwirio eich sampl sgrinio serfigol ac ni nodwyd unrhyw newidiadau i'r celloedd. Gan ein bod wedi nodi bod gennych HPV o hyd, rydym wedi eich atgyfeirio i glinig colposgopi i sicrhau nad oes unrhyw newidiadau i'ch ceg y groth.
Gan fod y clinig colposgopi wedi gwirio eich ceg y groth a heb ddod o hyd i unrhyw newidiadau, nid oes angen i ni eich gweld yn gynt na 36 mis.
Mae'r dystiolaeth yn dangos ei bod yn cymryd tua 15 i 20 mlynedd o haint HPV i ddatblygu canser ceg y groth mewn pobl sydd â system imiwnedd normal.
Mae'r clinig colposgopi wedi gwirio eich ceg y groth ac ni ddaethant o hyd i unrhyw newidiadau.
Mae'r dystiolaeth yn dangos ei bod yn cymryd tua 15 i 20 mlynedd o haint HPV i ddatblygu canser ceg y groth mewn pobl sydd â system imiwnedd normal, felly mae datblygu canser ceg y groth sy'n gysylltiedig â HPV yn ystod y 3 blynedd nesaf yn annhebygol iawn.