Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae Sgrinio Serfigol Cymru yn newid pryd y byddant yn fy ngwahodd i gael fy sgrinio?

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wedi argymell bod rhaglenni sgrinio serfigol yn gwahodd pawb sydd â cheg y groth, rhwng 25 a 64 mlwydd oed bob 5 mlynedd ar ôl iddynt gael canlyniad HPV negatif.

Mae feirws papiloma dynol (HPV) yn feirws sy'n achosi bron pob achos o ganser ceg y groth. Yn 2018, cyflwynodd Sgrinio Serfigol Cymru brofion sgrinio am HPV. Mae'r prawf hwn yn fwy effeithiol wrth nodi pobl sydd â risg uwch o ddatblygu newidiadau i gelloedd a all achosi canser ceg y groth.

Mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel ymestyn yr amser rhwng profion sgrinio serfigol (ceg y groth) ar gyfer pobl nad oes ganddynt HPV. Bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn cyflwyno’r newid hwn o 1 Ionawr 2022.

Bydd y newid hwn yn berthnasol i bobl y mae eu canlyniad sgrinio rheolaidd nesaf yn dangos nad oes ganddynt HPV. Mae hyn yn golygu bod eu risg o ddatblygu canser ceg y groth o fewn y 5 mlynedd nesaf yn isel iawn.

Byddwn yn edrych ar y celloedd os canfyddir HPV risg uchel mewn sampl sgrinio serfigol. Mae’n bosibl y bydd gofal dilynol ar gyfer yr unigolion hyn yn wahanol yn dibynnu ar ganlyniadau eu profion. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am eich canlyniadau a HPV.