Trafodwch y mater gyda'r sawl sy’n cymryd eich sampl a fydd yn asesu'r rhesymau dros y poen/anesmwythder. Mae’n bosibl mai atroffi ceg y groth sy’n gyfrifol am hyn. Yn dilyn y menopos, mae ceg y groth yn crebachu ac mae’n broses normal. Os mai dyna'r rheswm, ac nid yw'n bosibl cael prawf yn ystod yr ymweliad hwnnw, mae’n bosibl y bydd y sawl sy’n cymryd eich sampl yn argymell cwrs o eli estrogen i’w roi ar y croen i'w gymryd cyn eich apwyntiad nesaf ar gyfer sgrinio serfigol.
Bydd y newid yn cael ei weithredu o 1 Ionawr 2022, a bydd yn berthnasol i'r holl ganlyniadau sgrinio rheolaidd a gyhoeddwyd gan Sgrinio Serfigol Cymru lle na chanfuwyd HPV. Bydd rhai samplau a gymerwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn rhan o’r newid hwn.
Ydy. Mae tystiolaeth yn dangos os na cheir HPV risg uchel mewn sampl menyw, mae gan y fenyw risg isel iawn o ddatblygu canser serfigol o fewn 5 mlynedd, gan ei bod yn cymryd rhwng tua 10 a 15 mlynedd i’w ddatblygu ar ôl yr haint HPV.
Mae argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU bod rhaglenni sgrinio serfigol yn gwahodd unigolion, rhwng 25 a 64 oed bob 5 mlynedd, unwaith y byddant wedi profi'n negyddol am HPV, yn berthnasol i raglenni sgrinio serfigol y DU sy’n gweithredu profion HPV. Cafodd y newid ei roi ar waith yn yr Alban ym mis Mawrth 2020 a chaiff ei fabwysiadu gan Loegr yn y dyfodol.
Bydd y newid yn berthnasol o Ionawr 1 2022 i bobl sy'n cael canlyniadau arferol, lle na chanfuwyd HPV. Ni fydd y newid yn effeithio ar unigolion sydd eisoes yn derbyn gofal colposgopi neu sydd i fod i gael sgrinio serfigol dilynol nes iddynt gwblhau eu profion dilynol a’u bod yn dychwelyd i’r rhestr aros arferol ar ôl cael canlyniad negatif am HPV.
Na fydd. Mae'r prawf sgrinio serfigol yn aros yr un fath ac ni fydd y profiad sgrinio serfigol i fenywod yn newid.
Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol: