Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Sgrinio

Gelwir prawf sgrinio serfigol hefyd yn brawf ceg y groth. Nid yw'r prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn brawf ar gyfer canser.  Mae'n chwilio am fathau risg uchel o feirws cyffredin iawn o'r enw feirws papiloma dynol (HPV).

Mae bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael ei achosi gan fathau risg uchel o HPV. Gall y feirws achosi newidiadau i’r celloedd dros amser, a all arwain at ganser ceg y groth os na fyddant yn cael eu trin.  Gall dod o hyd i newidiadau i’r celloedd yn gynnar atal canser ceg y groth rhag datblygu.

Darganfod mwy am HPV.

Gall sgrinio rheolaidd leihau'r risg o gael canser ceg y groth 70%.

Mae’n haws trin canserau ceg y groth sy’n cael eu darganfod yn gynnar.

Bydd merched rhwng 25-64 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob 5 mlynedd.

Mae’n bosibl y bydd angen i bobl drawsryweddol neu anneuaidd sydd â cheg y groth gael prawf sgrinio serfigol.  I gael gwybod rhagor, ewch i'n tudalennau gwybodaeth i bobl drawsryweddol ac anneuaidd. 

 

Ynglŷn â chanser ceg y groth

Canser ceg y groth (gwddf y groth) yw canser serfigol.

Bob blwyddyn, bydd tua 160 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru.   Dyma'r canser mwyaf cyffredin ymysg merched o dan 35 oed.

Mae bron pob achos yn cael ei achosi gan y feirws papiloma dynol (HPV). Mae hwn yn feirws cyffredin iawn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gael ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

Darganfod mwy am:

Darllenwch ragor o wybodaeth am ganser ceg y groth drwy ymweld ag NHS UK ac Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo.

 

Pam mae sgrinio serfigol yn bwysig?

Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio serfigol pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.

Mae sgrinio'n bwysig oherwydd y gall atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu gall ddod o hyd iddo yn gynnar.

Darganfod mwy