Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu amdanoch chi eich hun

Arwyddion a Symptomau

Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio serfigol pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd chi.

Yn aml, nid yw canser ceg y groth yn achosi unrhyw symptomau. Dylech ddweud wrth eich meddyg os oes gennych unrhyw un o'r canlynol, hyd yn oed os ydych wedi cael prawf sgrinio arferol.

  • Gwaedu rhwng eich mislif, yn ystod neu ar ôl rhyw neu ar ôl y menopos (ar ôl i'ch mislif ddod i ben).
  • Rhedlif anarferol o’r fagina
  • Poen yn ystod rhyw, neu boen yn rhan isaf eich bol neu boen cefn.

Ewch i’n tudalennau Cadw’n Iach i ddysgu rhagor am yr hyn y gallwch ei wneud i gadw’n iach.

Darganfod mwy