Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae CARIS yn gweithio

Amcan CARIS yw casglu data dibynadwy am anomaleddau cynhenid yng Nghymru. Gellir defnyddio’r data hyn wedyn i ddisgrifio a helpu i asesu patrymau anomaleddau yng Nghymru, gan gynnwys clystyrau dichonol a’r ffactorau sy’n eu hachosi, sgrinio cynenedigol ac ymyriadau eraill i atal neu ddarganfod anomaleddau, a darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer babanod a phlant a effeithir gan anomaleddau.

Mae CARIS yn casglu gwybodaeth am unrhyw ffetws neu faban sy’n dioddef, neu y tybir ei fod yn dioddef anomaledd cynhenid, yr oedd ei fam yn byw fel arfer yng Nghymru ar ddiwedd cyfnod y beichiogrwydd. Mae’n cynnwys ffetysau ar unrhyw adeg o’r cyfnod cario y diagnoswyd anomaledd ynddo, ymlaen at fabanod hyd ddiwedd blwyddyn gyntaf eu bywyd. Dechreuwyd casglu data ar 1af Ionawr 1998, ac mae’n cynnwys unrhyw feichiogrwydd perthnasol a ddaeth i ben o’r dyddiad hwnnw ymlaen.

Mae CARIS yn treulio 25 mlynedd o helpu i wella gwasanaethau.

 

Beth yw anomaledd cynhenid?

Mae CARIS wedi diffinio anomaledd fel cyflwr sy’n cynnwys namau strwythurol, metabolaidd, endocrinol neu enetig sy’n bresennol yn y plentyn / ffetws ar ddiwedd y beichiogrwydd, hyd yn oed os nas darganfyddir tan adeg hwyrach.

Y cefndir yng Nghymru

Mae hyd at 40,000 o feichiogiadau’n digwydd bob blwyddyn yng Nghymru. Cofrestrir tua thri chwarter o’r rhain fel genedigaethau byw neu farw. Mae’r lleill yn diweddu p’un ai mewn colled digymell (camesgoriad) cyn 24edd wythnos y cyfnod cario neu yn nherfyniad therapewtig y beichiogrwydd.

Genir tua thri y cant (3%) o blant gartref. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 12 o unedau obstetrig ymgynghorol a 9 o unedau dan arweiniad bydwragedd, lle ceir y rhan fwyaf o enedigaethau. Bydd mamau sy’n byw yn agos i ffin Lloegr yn esgor yn aml yn Lloegr, yng Nghaer er enghraifft, Amwythig neu Henffordd.

Ffynonellau gwybodaeth

Mae CARIS yn defnyddio system adrodd aml-ffynhonnell er mwyn cael hyd i’r nifer uchaf bosibl o achosion gan greu’r darlun cyflawnaf posibl o achosion cymhleth ag anomaleddau lluosol.

Adrodd clinigol yw ffynhonell gwybodaeth bwysicaf CARIS. Mae’n darparu disgrifiad manwl o’r anomaledd nad yw ffynonellau eraill yn ei roi, yn enwedig ar gyfer achosion:

  • sy’n marw, heb fod post mortem yn cael ei gynnal
  • sy’n goroesi ag anomaleddau nad oes angen cymorth arbenigol na llawdriniaeth arnynt ar unwaith.

Mae cardiau rhybudd ar bapur a ffurflenni hel data’n dal i weithio’n dda yn y rhan fwyaf o gyd-destunau clinigol. Mae fersiwn o’r cerdyn rhybudd ar gael ar y We hefyd, sef yr E-rybudd. Adroddir ar archwiliadau uwchsain cynenedigol trwy gardiau rhybudd ac yn electronig bellach trwy RadIS II.

Mae lawrlwythiadau o nifer o gronfeydd data’n werthfawr iawn i’r gofrestr hefyd e.e. sytogeneteg, cardioleg bediatrig a geneteg feddygol. Darperir y rhain bob tri mis neu bob blwyddyn. Ar ben hyn mae data am gleifion preswyl gan Gronfa Ddata Episodau Cleifion Cymru (PEDW) yn rhoi gwybodaeth bwysig am lawdriniaeth, yn enwedig tua diwedd babandod ac yn ystod plentyndod y claf.

Dadansoddi data

  • Cyflawnir is-lwythiad data o gronfa ddata CARIS bob haf. Cynhelir gwiriadau mewnol ychwanegol ar ansawdd (er mwyn chwilio er enghraifft am gofnodion wedi’u dyblygu ac asesu cyflawnder y data). Unwaith y mae’r tasgau hyn wedi cael eu cwblhau, gwneir dadansoddiadau i ddiweddaru tablau data CARIS a monitro neu roi disgrifiad manylach o anomaleddau sydd o ddiddordeb neu’n destun pryder. Cyhoeddir y canlyniadau ar wefan CARIS a mewn adroddiadau, ac maent yn cael eu disgrifio bob hydref yn ystod cyfarfod blynyddol CARIS
  • Gwneir islwythiadau data a dadansoddiadau cryno ad hoc yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn gan reolwr CARIS, mewn ymateb i bryderon ynghylch anomaleddau penodol neu geisiadau eraill am ddata. Gall y dadansoddiadau hyn olygu defnyddio data nad ydynt wedi cael yr un gwiriadau ansawdd ychwanegol a gyflawnir ar gynnwys ir is-lwythiad blynyddol