Neidio i'r prif gynnwy

Sut i adrodd i CARIS

Mae CARIS yn annog pawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac yn gwybod am achos o anomaledd cynhenid i’w adrodd i’r Gofrestr. Rydym yn awyddus yn anad dim i glywed yn rheolaidd oddi wrth ystafelloedd esgor, Unedau Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU), wardiau newddanedig a chlinigau pediatrig.

Gellir adrodd mewn sawl ffordd:
 

E-rybudd

Mae’r E-rybudd yn fersiwn electronig o gerdyn CARIS ar y We. Gellir dod o hyd iddo ar wefan CARIS dan y teitl Rhybudd. Gellir defnyddio’r e-rybudd yn yr un modd â’r cerdyn rhybudd i adrodd tybiaeth gynenedigol o bresenoldeb anomaledd, neu i adrodd am achosion a ddarganfuwyd ar ôl genedigaeth. Cofiwch gadw’r safwe ar restr eich hoff wefannau ar gyfer y tro nesaf.

Cynlluniwyd y cerdyn rhybudd a’r E-rybudd â’r nod o gymryd cyn lleied o amser â phosibl i’w llenwi, ac erfynwn ar bawb eu defnyddio.

Ffurflenni CARIS

Mae’r ffurflen ddwy dudalen hon yn cynnwys yr holl fanylion ychwanegol sydd eu hangen am y fam a’r baban i gofrestru anomaledd(au) yn llawn. Fe’i llenwir fel rheol ar ôl diwedd y beichiogrwydd pan fydd tystiolaeth resymol i bresenoldeb un anomaledd o leiaf. Daw’r ffurflen mewn pecyn ynghyd â chyfarwyddiadau. Mae’n cymryd ychydig o amser i’w llenwi, ac mae angen gwybodaeth o’r adran mamolaeth ac o’r nodiadau pediatrig er mwyn ei chwblhau. Dylai’r manylion hyn fod ar gael mewn ystafelloedd esgor ac Unedau Gofal Arbennig i Fabanod.

Cardiau rhybudd

Gellir defnyddio cardiau rhybudd i roi gwybod i CARIS am ganlyniadau sganiad ar gyfer anomaleddau neu sganiadau eraill neu bryderon yn ystod y cyfnod cyn-geni. Mae hyn yn rhoi rhybudd cynnar i CARIS am achosion dichonol y dylid cadw golwg arnynt. Gellir defnyddio cardiau rhybudd ar ôl genedigaeth hefyd mewn unrhyw sefyllfa i adrodd am anomaledd a ddarganfuwyd. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod cardiau ar gael mewn wardiau a chlinigau, rhag ofn y bydd eu hangen. Os oes angen rhagor o gardiau arnoch chi, cysylltwch â’ch cydlynydd lleol neu â swyddfa CARIS.

Cymorth

Mae CARIS yn ymwybodol o’r ffaith bod staff clinigol dan bwysedd trwm weithiau, ac mai’r claf yw’r brif flaenoriaeth. Serch hynny, carem annog unedau ac adrannau i roi systemau ar waith fel na fydd adrodd i CARIS yn cael ei anghofio’n llwyr. Gall staff CARIS gynnig cymorth i unedau i hyrwyddo casglu data. Os oes angen cymorth arnoch chi, galwch swyddfa CARIS.

Cydlynwyr CARIS

Mae cydlynydd pwrpasol gan bob uned, sydd ar gael i gynnig cymorth a chefnogaeth yn lleol pan ddymunwch chi adrodd achosion. Bydd cyflenwad o gardiau a ffurflenni ar gael gan y cydlynydd lleol. Os carech chi wybod pwy yw eich cydlynydd lleol ewch yma. Bydd yn gallu’ch helpu hefyd i ailafael mewn nodiadau fel y gellir cofnodi’r data gorau am y fam a’r baban.

Amddiffynwyr CARIS

Mae gan bob uned obstetregydd a phediatrydd sydd â diddordeb penodol mewn anomaleddau cynhenid. Mae’r rhain wedi cytuno’n garedig i weithredu fel amddiffynwyr lleol dros CARIS, gan gadw proffil y gofrestr yn uchel yn yr uned. Maent ar gael gefyd i helpu i ddatrys problemau a sicrhau bod system ymarferol mewn grym, os oes anawsterau ynglŷn ag adrodd.

 

Ffynonellau Data sy'n adr CARIS

Obstetryddion  Pediatryddion
Bydwragedd Wltrasonograffeg
Unedau gofal arbennig i fabanod Uned sgrinio newyddenedigol Cymru
Uned sytogeneteg Cymru Patholeg bediatreg
Llawdriniaeth bediatrig ranbarthol Arolwg amenedigol Cymru gyfan
Cardioleg bediatrig ranbarthol Geneteg feddygol
Gwasanaethau cymunedol Llawdriniaeth eneuol-wynebol
Sgrinio Serwm Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
Orthopedeg Bediatrig Clywedeg
Offthalmoleg Geneteg folecwlaidd
Cofrestr anomaleddau cynhenid Merswy Cofrestr anomaleddau cynhenid De Orllewin Lloegr
Cofrestr anomaleddau cynhenid Canolbarth Gorllewinol Lloegr Protos (Caerdydd)
System genedlaethol iechyd plant Data ar gleifion preswyl ysbytai