Neidio i'r prif gynnwy

Tueddiadau a Chlystyrau

Nid oes gan CARIS ei rhaglen oruchwylio ei hun, ond mae’n cydweithredu ag EUROCAT a’r Tŷ Clirio Rhyngwladol ar gyfer Goruchwylio ac Ymchwilio i Namau Genedigaethol, fel y gellir gwirio data o Gymru i weld a oes tueddau hirdymor neu glystyrau i’w gweld.

Mae EUROCAT wedi datblygu rhaglen ystadegol soffistigedig ar gyfer dadansoddi data i weld a oes tueddau neu glystyrau i’w gweld dros amser. Mae’r data a anfonir gan CARIS yn cael eu gwirio bob blwyddyn, ac adborthir y canlyniadau i’r gofrestr.

Yn ogystal cyfunir data o CARIS â’r cofrestrau Ewropeaidd eraill fel y gellir chwilio am newidiadau helaethach mewn tueddau ar hyd a lled Ewrop.

Anomaleddau a all beri pryder

(Acordion yma)

Goruchwylio anomaleddau cynhenid

Mae gan CARIS adnoddau cyfyngedig i gynnal ei goruchwyliaeth fanwl ei hun ar anomaleddau cynhenid. Mae ei haelodaeth yn y Rhwydwaith Ewropeaidd o gofrestrau anomaleddau cynhenid (EUROCAT) a’r Tŷ Clirio Rhyngwladol ar gyfer Cofrestrau Namau Genedigaethol, Goruchwyliaeth ac Ymchwil (ICBDSR) yn rhoi iddi ddau fecanwaith sy’n gadael iddi gynnal goruchwyliaeth arferol ar ddata o Gymru.

EUROCAT

Mae EUROCAT yn monitro ystadegau blynyddol i weld a oes tueddau a chlystyrau dros amser, er mwyn darganfod arwyddion o gyffyrddiadau teratogenig newydd neu gynyddol  lle mae’n bosibl y bydd angen gweithredu ym maes iechyd cyhoeddus.  Mae hyn yn berthnasol i ddau o amcanion EUROCAT:

  • darparu gwybodaeth epidemiolegol hanfodol am anomaleddau cynhenid yn Ewrop
  • cydlynu’r broses o ddarganfod clystyrau ac arwyddion cynnar o gyffyrddiadau teratogenig ac ymateb iddynt

Yn y bôn mae monitro ystadegau’n ddull sgrinio ar gyfer craffu data’n rheolaidd ac yn drwyadl gyda golwg ar ddarganfod unrhyw gynnydd nas gwelwyd o’r blaen yn amlder anomaleddau cynhenid a allai fod yn gysylltiedig â chyffyrddiad â chyffuriau teratogenig neu lygrwyr cemegol amgylcheddol.  Y nod yw adnabod rhesymau dichonol dros bryderu pan nad oes damcaniaeth flaenorol benodol ynghylch y cyffyrddiad.

Cyhoeddir Adroddiad Monitro Ystadegol bob blwyddyn yn manylu ar y clystyrau a’r tueddau a ddarganfuwyd trwy’r monitro ystadegol a gyflawnir gan Gofrestrfa Ganolog EUROCAT a’r fethodoleg a ddefnyddir. Yn ogystal mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys canlyniadau’r ymchwiliadau cychwynnol i’r clystyrau a’r tueddau a gynhaliwyd gan gofrestrfeydd lleol. 

Cyflawnir monitro ystadegol ar hyn o bryd gyda golwg ar ddarganfod newidiadau dros amser o fewn pob cofrestrfa a darganfod tueddau ar draws y cofrestrfeydd i gyd. Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn coethi’r modd y dadansoddir data ar draws y cofrestrfeydd ac yn ymgorffori’r dimensiwn gofodol.

Gwahoddir cofrestrfeydd sy’n aelodau i ddefnyddio Rhaglen Reoli Data EUROCAT (EDMP) yn lleol i ddarganfod clystyrau, gan adrodd eu canlyniadau i’r Gofrestrfa Ganolog.

Elfennau’r strategaeth fonitro bresennol yw:

  • Meddalwedd gyffredin, sy’n hawdd i’w defnyddio’n ganolog ac yn lleol (EDMP)
  • Monitro ystadegol blynyddol ar gyfer tueddau a chlystyrau ar lefel ganolog, 15 mis ar ôl y dyddiad geni diweddaraf (e.e. cynhwysir genedigaethau’r flwyddyn 2011 yn y monitro a wneir ym mis Mawrth 2013).
  • Monitro ystadegol yn amlach a/neu’n gynharach ar raddfa leol (gan gofrestrfeydd sy’n aelodau)
  • Defnyddio cyfathrebiadau a dadansoddiadau arbennig data EUROCAT i ymateb i newyddion am glystyrau sy’n cael eu hadnabod yn lleol neu’r tu allan i’r system fonitro
  • System glir a phrydlon ar gyfer ymchwilio i ganlyniadau a’u hadrodd
  • Defnyddio monitro ystadegol hefyd fel system reoli ansawdd data

Cynhelir profion tuedd ar gyfer 81 o is-grwpiau anomaleddau i bob cofrestrfa. Ar hyn o bryd mae’r Gofrestrfa Ganolog yn cynnal prawf tuedd ar ddata’r pum mlynedd mwyaf diweddar, yn ogystal â phrawf tuedd ar ddata’r ddeng mlynedd mwyaf diweddar (neu 8 blynedd os nad ydynt ar gael am 10 mlynedd).

Seilir y dadansoddiad ar nifer yr achosion ym mhob blwyddyn genedigaeth a nifer y genedigaethau bob blwyddyn. Arferir cyflwyno data fesul blwyddyn neu wedi’u grwpio mewn cyfyngau dwy flynedd os nad oes digon o achosion i fodloni’r meini prawf ar gyfer profion fesul blwyddyn. Gweler rhagor o wybodaeth ar  www.eurocat-network.eu/content/Stat-Mon-Protocol-(May-2013)-2011.pdf

Esiampl o duedd hirdymor o Gymru a ddarganfuwyd gan EDMP – Ysgyfaint adenomatoid systig

Amlinelliad o’r duedd   Echelin Y: Cyfradd i bob 10 mil o enedigaethau Echelin X: Blwyddyn geni

* = Mynychder y Gofrestrfa+ = Mynychder cyfartalog EUROCAT (17 o gofrestrfeydd)