Neidio i'r prif gynnwy

Am CARIS

Y gred yw bod rhyw fath o anomaledd cynhenid yn effeithio ar ryw 30% o genedliadau. Ond mae’r rhan fwyaf o’r beichiogiadau hyn yn erthylu’n ddigymell a hynny efallai heb i’r gwasanaethau iechyd gael gwybod amdanynt.

Mae data CARIS (1998-2018) yn awgrymu:

  • Bod anomaledd cynhenid yn effeithio ar ryw 5.1% o feichiogriadau sydd wedi sefydlu. Bydd rhai o’r rhain yn arwain at erthyliad neu derfynu’r beichiogrwydd ar ôl i’r namau gael eu canfod yn ystod y cyfnod cynenedigol.

  • Bydd anomaledd cynhenid ar 4.4% o’r babanod sy’n cael eu geni’n fyw, er na fydd pob anomaledd yn cael ei ganfod erbyn adeg y geni.

 

Cysylltwch

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â'r wefan hon neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni : Caris@wales.nhs.uk