Neidio i'r prif gynnwy

Ydy sgrinio'n gweithio?

Mae casglu data sy’n fanwl gywir ynghylch anomaleddau cynhenid yn bwysig, gan y gall hyn effeithio ar y ffordd y mae’r gwasanaeth iechyd yn gweithio er lles pobl Cymru.

Mewn modd cynyddol mae CARIS yn gallu darparu mewnwelediad i’r ffyrdd y mae gwahanol wasanaethau ac ymyriadau’n gweithio ar y cyd at hyrwyddo gofal y claf.

Mae’r GIG yng Nghymru wedi defnyddio data CARIS ynghylch rhychwant o anomaleddau, gan gynnwys anomaleddau cardiaidd, gwefus a thaflod hollt a ffibrosis systig er mwyn cynllunio ei wasanaethau.

Mae gan CARIS berthynas glòs â Sgrinio Cynenedigol Cymru ac mae’n helpu gyda data ar ddarganfod anomaleddau’n gynenedigol a’u deilliannau. Un o’r manteision sy’n deillio o sgrinio a darganfod cynenedigol da yw’r gallu i gynllunio’r esgoriad mewn uned addas sydd â gwasanaethau pediatrig addas.

Gall y gofrestr helpu trwy ddarparu data ar ddeilliannau sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at y broses o wneud penderfyniadau. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol yn achos anhwylderau anghyffredin neu dra anghyffredin. Gall gweithwyr proffesiynol iechyd sy’n ymwybodol o waith CARIS deimlo bod hyn yn gymorth yn y broses gwnsela. Mae gwybod bod yna system ar gyfer cofnodi a dadansoddi anomaleddau a gwneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd yn gallu rhoi cysur a sicrwydd i rieni.

 

Darganfod anomaleddau’n gynenedigol

Rhoddir gwybodaeth am anomaleddau cynhenid a ganfyddir yn ystod y cyfnod cyn-enedigol yn y dogfennau y mae dolenni cyswllt iddynt uchod.

Cynigir i bob menyw feichiog yng Nghymru yr un rhaglen sgrinio gyn-enedigol sy’n cynnwys saith prawf gwaed a dau sganiad uwchsain. Y ddau sganiad uwchsain a gynigir trwy raglen Sganio Cyn-enedigol Cymru yw’r ‘sganiad uwchsain mewn beichiogrwydd cynnar’ a’r ‘sganiad ar gyfer anomaleddau ffetysol'. Mae’r sganiadau hyn yn brofiad pleserus i fenywod yn aml gan eu bod yn cynnig cyfle iddynt weld eu baban yn symud ac yn datblygu. Ond o bryd i’w gilydd fe fydd y sganiadau hyn yn dod o hyd i broblem sydd gan y fam neu’r baban.

Cynigir y sganiad uwchsain mewn beichiogrwydd cynnar i gadarnhau hyfywedd y ffetws a’i oedran, ac i ganfod a oes beichiogrwydd lluosog. Mae’n bosibl y canfyddir rhai anomaleddau ffetysol, ond nid dyna brif nod y sganiad hwn. Nod y sganiad ar gyfer anomaleddau ffetysol yw canfod unrhyw anomaleddau ffetysol arwyddocaol sy’n debygol o amharu ar iechyd y fam neu’r baban, ac y mae ymyriad effeithlon a chyfiawnadwy ar gael ar eu cyfer. Gellir canfod anomaleddau hefyd ar sganiadau a gynhelir yn nes ymlaen yn ystod y beichiogrwydd. Mae data CARIS ar ganfod anomaleddau trwy sganiad uwchsain yn cynnwys achosion a ganfyddir ar unrhyw un o’r sganiadau a gynhelir yn ystod y beichiogrwydd.

Mae triniaeth ataliol ar gael at rai anhwylderau yn ystod y cyfnod cyn-enedigol neu ar ôl yr esgoriad i wella iechyd y baban. Yn achos anhwylderau eraill, er ei bod hi’n bosibl adnabod yr anhwylder trwy sganiad uwchsain, nid oes triniaeth ataliol ar gael. Mewn achosion o’r fath, gall menywod benderfynu wedyn ar sail gwybodaeth a ydynt am ganlyn arni â’r beichiogrwydd.

Bydd yr uwchseingraffydd yn hysbysu CARIS am anomaledd cyn-enedigol ar yr adeg pan fydd yn ei ganfod. Mae hyn wedi galluogi CARIS i amcangyfrif y gyfradd ganfod ar gyfer anhwylderau penodol.   Mae newidiadau ym modwl adrodd y System Hysbysu Radiolegol  (RadIS) a ddefnyddir gan uwchseingraffyddion wedi gwneud y broses adrodd yn haws ac yn gyflymach. Mae’r system RadIS II ddiweddaredig wedi cael ei rhoi ar waith bellach ym mhob ysbyty yng Nghymru heblaw am un.

Mae CARIS yn cydweithio’n glòs â’r staff mewn byrddau iechyd i’w gwneud hi’n bosibl i ddeilliannau sganiadau uwchsain cyn-enedigol gael eu harchwilio ac i’r achosion hynny na chawsant eu canfod yn gyn-enedigol gael eu harolygu gan adrannau radioleg. Mae CARIS yn cydweithio’n glòs hefyd â Sganio Cyn-enedigol Cymru i fonitro cyfraddau canfod. Mae data CARIS yn dangos bod gwelliant cyson wedi digwydd mewn llawer o anhwylderau dros yr 17 blynedd ddiwethaf yn y broses o ganfod anomaleddau. Yn achos yr anomaleddau hynny sy’n haws i’w canfod, megis anenseffaledd neu spina bifida, mae cyfraddau canfod wedi aros ar lefelau uchel trwy gydol y cyfnod.

Mae hanes canfod anomaleddau cardiaidd yn y cyfnod cyn-enedigol wedi gwella’n aruthrol gan ddechrau ar lefel isel iawn, ac o ganlyniad mae gan Gymru’r cyfraddau gorau yng ngwledydd Prydain o ran canfod anomaleddau cardiaidd. Mae hyn yn golygu bod rhyw bedwar neu bump o fabanod yn cael eu hachub bob blwyddyn bellach a fuasai wedi marw o’r blaen cyn iddi fod yn bosibl rhoi triniaeth iddynt.
 

Canfod ôl-enedigol

Sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig

Mae'r gwasanaeth sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn canfod clefydau prin ond difrifol sy'n ymateb i ymyriadau cynnar.

Caiff y prawf sgrinio ei gynnal yn ddelfrydol ar y pumed diwrnod o fywyd ac mae'n rhan o ofal ôl-enedigol rheolaidd.

Mae sgrinio ar gyfer Ffenylcetonwria (PKU) yn cael ei gynnal ers blynyddoedd bellach. Dechreuwyd sgrinio ar gyfer diffyg dadhydrogenas asyl-CoA cadwyn-ganolig (MCADD) ym mis Mehefin 2012, a dechreuwyd sgrinio ar gyfer anhwylderau metabolig etifeddol eraill ym mis Ionawr 2015.

Mae rhagor o fanylion ar wefan Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru.

Sgrinio clyw babanod

Mae un neu ddau o fabanod  ym mhob 1,000 yn cael eu geni â cholled clyw a all amharu ar ddatblygiad iaith a lleferydd. Dechreuwyd sgrinio clyw babanod newydd-anedig yng Nghymru ym mis Mawrth 2003; arferir gwneud hyn yn ystod wythnos gyntaf bywyd y baban.

Mae rhagor o fanylion ar wefan Sgrinio Clyw Babanod Cymru.