Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Data CARIS

Mae data CARIS yn cael ei ddefnyddio ar gyfer:

  • Adborth i glinigwyr er gwybodaeth ac i ddibenion archwilio ac ymchwil.
  • Cyhoeddiadau blynyddol CARIS
  • Ymatebion i ymholiadau ad hoc
  • Cynlluniau arolygu a monitro ffurfiol.

Gallwch darganfod mwy am y defnyddiau hyn yn yr adrannau perthnasol ar y wefan.

Cydweithio

Mae Rhwydweithiau EUROCAT ac ICBDSR (Y Tŷ Clirio Rhyngwladol er Arolygu ac Ymchwilio i Namau Genedigaethol) yn cynnal gwasanaeth arolygu gan ei gwneud hi’n bosibl i wneud cymariaethau rhwng cyfraddau o fewn Ewrop a ledled y byd.
 

EUROCAT

Rhwydwaith anomaleddau cynhenid Ewropeaidd  yw EUROCAT a sefydlwyd ym 1979. Ymunodd CARIS yn 1998. Trosglwyddir data i EUROCAT bob blwyddyn. Mae EUROCAT yn darparu meddalwedd i gadw golwg ar anomaleddau a thueddau hirdymor. Gellir adborthi’r canlyniadau hyn wedyn i’r gofrestr.

Rhoddir mwy o fanylion ynghylch EUROCAT a’r astudiaethau y mae’n eu cefnogi ar http://www.eurocat-net.eu

 

Y Tŷ Clirio Rhyngwladol er Arolygu ac Ymchwilio i Namau Genedigaethol (ICBDSR)

Sefydlwyd ICBDSR ym 1975 ac ymaelododd CARIS yn 2005. Yr un fath ag yn achos EUROCAT, trosglwyddir data bob blwyddyn. Bydd ICBDSR yn cynnal arolwg chwarterol ar anomaleddau penodol, sy’n gallu rhoi rhybudd am gynnydd neu leihad sydyn yn nifer yr achosion.

Rhoddir mwy o fanylion ynghylch ICDBSR ar http://www.icbdsr.org/