Neidio i'r prif gynnwy

Patrymau anomaleddau

Gall babi fod ag un anomaledd neu batrwm cymhleth o namau sy’n effeithio ar lawer o systemau’r corff. Gall y patrwm o anomaleddau, o’i ystyried gyda gwybodaeth drwyadl am embryoleg, helpu mewn rhai achosion i awgrymu beth yw achosion posib yr anomaleddau.

O’r holl achosion sy’n dod i sylw CARIS:

  • Un anomaledd yn unig sydd gan 60% o achosion
  • Roedd 58% o'r rhai yr effeithid arnynt yn wrywod, 40% yn fenywod, ac roedd rhyw y gweddill yn anhysbys neu heb ei gofnodi, ac eithrio 14 a ddisgrifid fel rhyngrywiol

  • Mae gan 11.6% o achosion anghysondeb cromosomaidd
     

Congenital anomalies - outcome of pregnancy

Mae goroesi neu beidio’n amrywio yn ôl patrwm yr anomaleddau. Fel y gellid disgwyl, mae’r cyfraddau bwy’n uwch ymhlith babanod ag ond un anomaledd. Wrth i nifer yr anomaleddau a’u cymhlethdod gynddu, mae’r tebgrwydd o oroesi’n lleihau.

Mae methu parhau’n fyw yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o golledion naturiol, ond hefyd â therfynu’r beichiogyrwdd ar ôl i anomaleddau gael eu hadnabod yn ystod y cyfnod cynenedigol.

Prif grwpiau anomaledd

Mae CARIS yn dosbarthu anghysondebau yn ôl y system yny corff yr effeithir fwyaf arni. Dangosir isod y cyfraddau ar gyfer y gwahanol grwpiau hyn. Anomaleddau cardiofasgwlaidd yw'r grŵp mwyaf ac yna ddiffygion aelodau’r corff ac anomaleddau cyhyrol-ysgerbydol.
 

Main anomaly groups for cases reported to CARIS 1998-2014 (W)

 

Ffactorau risg

Gellir dosbarthu ffactorau risg anomaleddau cynhenid mewn llu o ffyrdd gwahanol, er enghraifft:

  • Ffactorau  a oedd yn bodoli eisoes yn y rhieni, gan gynnwys oedran y fam, anhwylderau meddygol y fam, statws cymdeithasol ac economaidd a ffactorau genetig. Gallai hyn gynnwys perthynas gwaed rhwng y rhieni.
  • Profiadau’r ffetws yn ystod y beichiogiad, gan gynnwys ffactorau ynghylch ffordd o fyw, cysylltiad â chyffuriau a phrofiadau amgylcheddol.