Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestr anomaleddau yn ystod plentyndod Cymru sy'n enwog yn rhyngwladol yn dathlu 25 mlynedd o helpu i wella gwasanaethau

Cyhoeddig: 13 Tachwedd

Mae clinigydd sy'n gweithio gyda babanod a phlant sydd â dysplasia difrifol y glun wedi canmol prosiect CARIS Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n casglu data ar anomaleddau cynhenid yng Nghymru ac sy'n dathlu 25 mlynedd o weithredu. 

Dywedodd Dr Clare Carpenter, llawfeddyg orthopedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sydd â gyrfa hir wrth helpu babanod a phlant â phroblemau gyda'u clun fod CARIS – y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid – wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu gwasanaethau clinigol a rhwydwaith cymorth i gleifion a'u teuluoedd. 

“Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes orthopedeg am lawer o flynyddoedd ac rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae cofrestr CARIS wedi'i wneud yn y ffordd rydym yn llunio ein cynnig clinigol i fabanod a phlant sydd â dysplasia'r glun a'u teuluoedd.” 

“Mae cyfoeth y data y mae CARIS yn eu monitro wedi golygu y gallwn nodi'r unigolion hynny sy'n wynebu risg uwch o'r cyflwr, a chynnig asesiadau risg a sganio uwchsain iddynt fel y gellir rhoi gwasanaethau clinigol fel llawdriniaeth a ffisiotherapi, ar waith.” 

Mae CARIS yn darparu data dibynadwy ar yr holl anomaleddau cynhenid yng Nghymru, fel diffygion ar y galon, gwefus a thaflod hollt a cholli clyw.  Fe'i sefydlwyd ym 1998 ac mae wedi ehangu i gynnwys clefydau prin yn ystod plentyndod fel clefyd Kawasaki, clefyd Behcet a chlefyd Perthes. 

Defnyddir y data i asesu patrymau anomeladdau, nodi clystyrau posibl a'u hachosion ac mae'n helpu arweinwyr gofal iechyd i sicrhau bod eu gwasanaethau fel sgrinio cyn geni yn gweithio'n fwyaf effeithiol i bobl yng Nghymru. 

Ychwanegodd Dr Carpenter: “Mae'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'r tîm yn CARIS yn hanfodol bwysig gan ei fod yn golygu bod yr hyn sy'n digwydd ‘ar lawr gwlad’, sy'n gallu bod yn ofalus ac yn gymhleth, yn cael ei adlewyrchu i lunwyr polisi pan fydd gwasanaethau'n cael eu cynllunio.” 

Dr Margery Morgan, Obstetregydd Ymgynghorol sy'n gweithio yn Ysbyty Singleton, Abertawe, oedd un o’r tîm a weithiodd i sefydlu'r gofrestr ym 1998, ac mae wedi bod yn hanfodol i'w datblygiad a'i llwyddiant dros y 25 mlynedd diwethaf. 

Meddai Dr Morgan “Mae CARIS wedi bod yn un o'r llwyddiannau ym maes gofal iechyd yng Nghymru dros y chwarter canrif diwethaf, ac mae o ganlyniad i gydweithio rhwng tîm CARIS, y Tîm Dadansoddol Arsyllfa a Chanser (OCAT) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chlinigwyr a staff gofal iechyd ledled Cymru. 

“Mae wedi datblygu'n offeryn hanfodol i glinigwyr yng Nghymru, sy'n gweithio i ddarparu gwasanaethau i famau beichiog, babanod a theuluoedd.” 

Fel rhan o ddathlu'r pen-blwydd yn 25 oed, mae ystadau swyddogol blynyddol CARIS 2022/23 yn cael eu rhyddhau. 

Mae'r diweddariad data yn cael ei gyflwyno mewn tri thabl, ac yn cynnwys: 

• data am anomaleddau cynhenid 

• data am glefydau prin yn ystod plentyndod 

• cyfraddau canfod cynenedigol. 

Mae data am anomaleddau cynhenid yn dangos bod 4.8 y cant o'r holl enedigaethau yng Nghymru wedi'u heffeithio gan anomaledd cynhenid yn 2022. Roedd 84.7 y cant o fabanod yr effeithiwyd arnynt gan anomaleddau cynhenid yn fywanedig, gyda 96.9 y cant o'r rhain yn goroesi i flwydd oed. O'r rhai â rhywedd wedi'i gofnodi, roedd 59.2 y cant yn fechgyn. Mae'r cyfrannau hyn yn parhau'n debyg i'r rhai a adroddwyd yn flaenorol. 

Ar gyfer clefydau prin yn ystod plentyndod, mae data cyfrif a chyffredinrwydd yn cael eu nodi ar gyfer dros 260 o wahanol glefydau prin ac yn cael eu categoreiddio yn ôl achoseg, neu achos. Er enghraifft, y cyflwr genetig a adroddwyd amlaf oedd Ffibrosis Systig gyda 322 o achosion wedi'u cofnodi sy'n cyfateb i gyffredinrwydd o 3.97 fesul 10,000 o enedigaethau byw. 

Yn ogystal â'r crynodebau pennawd a ddarperir uchod, mae'r tablau data a'r allbynnau sy'n ffurfio'r datganiad ystadegau swyddogol ar gael yma.