Neidio i'r prif gynnwy

Mannau a Ffyrdd o Weithio sy'n Hyblyg

Mae gweithio’n hyblyg yn ffordd o weithio sy'n gweddu i anghenion gweithiwr, er enghraifft cael amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, neu weithio gartref. Gall gweithio’n hyblyg roi hwb i lesiant gweithwyr trwy leihau’r tensiynau wrth gydbwyso ymrwymiadau gwaith a bywyd. Gall cyflogwyr gael budd o gynnig oriau gweithio hyblyg mewn sawl ffordd, megis cadw mwy o weithwyr, gweld mwy o amrywiaeth yn y gweithlu, cynhyrchiant gwell, a mwy o ymgysylltiad a chymhelliant gan weithwyr.