Neidio i'r prif gynnwy

Bwydo ar y Fron a'r Gweithle

Cefnogi Gweithwyr sy’n Bwydo ar y Fron

Mae llawer o fenywod yn rhoi’r gorau i fwydo ar y fron, neu’n dewis peidio â dechrau, oherwydd yr heriau a wynebir wrth geisio bwydo ar y fron ar ôl dychwelyd i’r gwaith. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan ar Fwydo ar y Fron, o dan ei ddull strategol o weithredu ar gyfer y boblogaeth gyfan, yn ceisio creu amgylcheddau sy'n cefnogi bwydo ar y fron sy'n cynnwys gweithleoedd. Mae’n amser da felly i ystyried y cymorth a gynigir i weithwyr sy’n bwydo ar y fron yng Nghymru.

Pam Dylai Cyflogwyr Weithredu?

 

Beth Yw Fy Rhwymedigaethau Cyfreithiol fel Cyflogwr?

Nid oes hawl statudol i gael amser o’r gwaith ar gyfer bwydo ar y fron, ond gall gwrthod caniatáu hynny fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw (Cod Ymarfer Deddf Cydraddoldeb 2010: Cyflogaeth).

Os bydd gweithiwr yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig ei fod yn bwydo ar y fron, rhaid i chi gynnal asesiad risg a ddylai gael ei adolygu'n rheolaidd neu os bydd unrhyw beth yn newid. Anaml y bydd bwydo ar y fron yn effeithio ar allu gweithiwr i gyflawni ei ddyletswyddau rheolaidd, ond mae'n bosibl (e.e. os yw'r gwaith yn golygu dod i gysylltiad â sylweddau peryglus).

Mae'n ofynnol i gyflogwyr o dan Reoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 ddarparu “cyfleusterau addas” i weithiwr sy'n bwydo ar y fron orffwys gan gynnwys lle i orwedd. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn argymell y dylai ardal o’r fath fod yn lân ac yn breifat ar gyfer tynnu llaeth, ac y dylid darparu oergell ar gyfer storio llaeth.

Beth yw Arfer Da yn y Maes Hwn?

Mae'n arfer da trafod anghenion y gweithiwr sy'n dychwelyd yn ystod diwrnodau cadw mewn cysylltiad. Gallwch amlinellu sut y gall gweithwyr wneud ceisiadau ynghylch dychwelyd i'r gwaith tra'n bwydo ar y fron o fewn polisi.

Dylai cyflogwr dynnu sylw pob aelod o staff at y polisi hwn a gall fod yn rhan o lawlyfr gweithio hyblyg, polisi mamolaeth neu lawlyfr staff. Ar gyfer busnesau llai, efallai na fydd angen polisi ffurfiol, fodd bynnag, byddai'n dal yn bwysig trafod dychwelyd i'r gwaith o absenoldeb mamolaeth gyda'r gweithiwr.  Bydd polisi yn helpu i arwain cyflogwyr wrth ymateb i geisiadau gan weithwyr pan fyddant yn dychwelyd i'r gwaith.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd parhau i fwydo ar y fron ar ôl dychwelyd i'r gwaith yn ymarferol yn golygu tynnu rhywfaint o laeth yn y gwaith, fel arfer gyda phwmp trydan ar gyfer tynnu llaeth o'r fron. Mae'n arfer da cynnig ystafell lân, breifat y gellir ei chloi ar gyfer tynnu llaeth (nid toiled). Bydd angen i famau allu storio eu llaeth yn yr oergell ac efallai y bydd angen seibiannau ychwanegol arnynt i'w dynnu.

Mewn rhai achosion gall fod yn bosibl i’r fam fwydo ei phlentyn ar y fron yn uniongyrchol yn ystod y diwrnod gwaith, naill ai yn y gweithle neu yn ei chartref neu mewn cyfleuster gofal plant os yw gerllaw.

Enghraifft o Arfer Da

 

Gwybodaeth Bellach
  • ACAS

Llyfryn cynhwysfawr gan ACAS yn ymgorffori astudiaethau achos a chyngor ymarferol. (Saesneg Yn Unig)

  • Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gefnogi gweithwyr sy'n famau newydd. (Saesneg Yn Unig)

  • Equality and Human Rights Commission

Rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. (Saesneg Yn Unig)