Neidio i'r prif gynnwy

Niwroamrywiaeth

Adran 1: Beth yw Niwroamrywiaeth?

Niwroamrywiaeth yw’r ystod o wahaniaethau yn swyddogaeth yr ymennydd unigol a nodweddion ymddygiadol sy’n rhan o amrywiadau normal mewn pobl.  Mae’n cyfeirio at y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl, yn prosesu gwybodaeth, yn ymddwyn a chyfathrebu.  Gall hyn ddylanwadu ar ganfyddiadau ac effeithio ar ymddygiad.  Mae hefyd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio ystod o gyflyrau penodol.

Mae cyflyrau sy’n cael eu cynnwys o fewn ymbarél niwroamrywiaeth yn cynnwys awtistiaeth, ADHD (anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd), dyscalcwlia, dyslecsia, dyspracsia a syndrom Tourette. Mae gan bob un o’r cyflyrau hyn sbectrwm gyda rhai unigolion ond yn profi heriau cyfyngedig mewn cysylltiad â’u cyflyrau ond bydd eraill yn profi heriau mwy eithafol, er enghraifft, wrth ddelio â sefyllfaoedd fel cymdeithasu neu weithio.

Er y gall cyflyrau niwrowahanol fodoli ochr yn ochr â chyflyrau iechyd meddwl, er enghraifft gorbryder neu iselder, mae’r materion iechyd meddwl ar wahân i’r cyflyrau niwrowahanol.  Yn draddodiadol, oherwydd ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth wael o gyflyrau niwrowahanol, gall fod yn gyffredin iddynt dderbyn camddiagnosis o salwch meddwl.

Nid yw cyflyrau niwrowahanol yn anableddau ynddynt eu hunain, am eu bod yn adlewyrchu amrywiadau naturiol ymhlith pobl.  Weithiau, mae unigolion sy’n niwrowahanol yn ystyried eu hunain yn anabl, gallai fod ganddynt anghenion addysgol penodol, neu gael eu dosbarthu fel unigolyn ag anabledd neu anhawster dysgu penodol.  Gall y termau hyn greu arwyddocâd negyddol am eu bod yn pwysleisio heriau a gofynion.  Yn lle hynny, mae mabwysiadu iaith cyflyrau niwrowahanol a defnyddio’r term “niwroamrywiaeth” yn newid y ffocws i gydnabod gwahaniaethau yn hytrach na diffygion.  Dylai cyflogwyr fabwysiadu agwedd hyblyg, a chydnabod y gallai fod angen addasiadau rhesymol ar unigolyn niwrowahanol yn y gweithle er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.

Cyflyrau niwrowahanol: beth ydyn nhw a pha mor gyffredin ydyn nhw?

Amcangyfrifir bod tua 15% (neu 1 o bob 7) o bobl yn y DU yn niwrowahanol, sy’n golygu bod yr ymennydd yn gweithredu, yn dysgu ac yn prosesu gwybodaeth yn wahanol.

Mae niwroamrywiaeth yn cynnwys ystod o gyflyrau gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio, Awtistiaeth, Dyslecsia a Dyspracsia:

Ffynhonnell: Niwroamrywiaeth | Cymdeithas Llywodraeth Leol

  • Awtistiaeth
  • ADHD
  • Dyscalcwlia
  • Dyslecsia
  • Epilepsi
  • Anhwylder Datblygu Iaith
  • Anhwylder Spectrwm Alcohol y Ffetws
  • Anabledd Deallusol
  • Tourettes ac anhwylderau Tic
Adran 2: Deall Niwroamrywiaeth

Pam ei bod yn bwysig i gyflogwyr ddeall a chefnogi niwroamrywiaeth?

Ers blynyddoedd lawer, mae dealltwriaeth wael wedi bod o gyflyrau niwrowahanol, yn aml wedi’u stereoteipio a’u nodweddu mewn ffyrdd negyddol, yn arbennig mewn lleoliadau sy’n cynnwys addysg a’r gweithle.  Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae dealltwriaeth well wedi datblygu o’r amrywiad normal yn y ffyrdd mae ymennydd bodau dynol yn gweithio, gyda sefydliadau’n ystyried niwroamrywiaeth ac yn cydnabod y cyfraniadau gwerthfawr y gall unigolion niwrowahanol eu gwneud.

Gall cael aelodau o staff niwrowahanol wella amrywiaeth y gweithle yn aruthrol, cyflwyno ffyrdd gwahanol o fynd ati i weithio a chyfrannu at greadigrwydd ac arloesedd.  Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn pwysleisio y gall unigolion niwrowahanol gyfrannu safbwyntiau, syniadau a thalentau unigryw, a bod ganddynt sgiliau gwerthfawr ar gyfer datrys problemau, mewnwelediadau creadigol a meddwl gofodol gweledol (gallu i ganfod a defnyddio gwybodaeth nad yw’n iaith fel patrymau a chof gweledol).

Mae’n bwysig i gyflogwyr gydnabod y gellir dosbarthu niwrowahaniaeth cyflogai fel anabledd, ac felly fel nodwedd warchodedig, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n ofynnol i gyflogwyr wneud yn siŵr nad yw gweithwyr ag anableddau, neu gyflyrau corfforol neu iechyd meddwl o dan anfantais sylweddol wrth wneud eu swyddi.

Fodd bynnag, ni fydd pob cyflogai eisiau cael eu hadnabod fel rhywun ag anabledd neu nid ydynt yn dymuno datgelu bod ganddynt gyflwr niwrowahanol. Os byddant yn gwneud hynny, mae’n rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i’w galluogi i gyflawni eu gwaith gorau a’u hamddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddwch ac erledigaeth.  Mae’n bosibl y bydd angen mabwysiadu dull ychydig yn wahanol er mwyn bod yn fwy cyfarwydd â niwroamrywiaeth yn y gweithle. Mae'r fideo byr hwn gan MIND yn darparu rhai mewnwelediadau defnyddiol:

Fideo Niwroamrywiaeth yn y Gweithle (mindtools.com)

Mae hefyd yn ddefnyddiol ystyried niwroamrywiaeth yng nghyd-destun y model cymdeithasol o anabledd sy’n ystyried y rhwystrau a wynebir mewn cymdeithas pan mae pobl yn wahanol, gwahaniaethau corfforol neu feddyliol sy’n cael eu hachosi gan agweddau at wahaniaethau.  Gall y model cymdeithasol ein helpu i ddeall y rhwystrau y gallai pobl niwrowahanol eu profi a phwysleisio’r un pryd sut y gallai mynd i’r afael â’r rhwystrau helpu i greu cydraddoldeb a chynnig mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y model cymdeithasol o anabledd.

Cyflyrau niwrowahanol: priodoleddau a heriau

Mae’r tabl canlynol yn darparu trosolwg o’r 5 cyflwr niwrowahanol mwyaf cyffredin, eu mynychder yn y DU, y priodoleddau a’r heriau sy’n aml yn gysylltiedig â hwy:

Awtistiaeth

Cyflwr Mynychder (DU) Priodoleddau Cyffredin Heriau Cyffredin

Awtistiaeth

 

Cyflwr datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd. Gall yr effeithiau amrywio o berson i berson.

 

Tua un o bob 100 o bobl.

Cofio a dysgu gwybodaeth yn gyflym.

Y gallu i feddwl yn rhesymegol.

Cof eithriadol o dda.

Bod yn fanwl gywir a manwl.

Gonestrwydd a dibynadwyedd.

Ymlyniad cryf at reolau.

Y gallu i ganolbwyntio am gyfnodau hir o amser (pan fyddant wedi’u cymell).

Gallu i ddatrys problem mewn ffyrdd gwahanol.

Prydlon.

 

Rhyngweithio cymdeithasol.

Gwneud cyswllt llygaid

Ymateb i iaith y corff, er enghraifft gwenu.

Teimlo’n anghyfforddus yn profi rhai blasau, arogleuon neu synau.

 

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Cyflwr Mynychder (DU) Priodoleddau Cyffredin Heriau Cyffredin

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

 

Mae’n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’r byd.
Amcangyfrifir tua 3 i 4 o bob 100 o oedolion.

Creadigrwydd.

Gallu i ymdopi’n dda mewn argyfwng.

Y gallu i ‘hyperffocysu’ ar dasg benodol.

Sythweledol ac yn canolbwyntio ar fanylion.

Empathetig a greddfol.

Y gallu i fod yn hyblyg a digymell.

Yn aml yn cyfrannu optimistiaeth i’r gweithle.

Canolbwyntio.

Anesmwythder a byrbwylltra (mewn rhai achosion).

Ffocws.

Talu sylw mewn cyfarfodydd.

Rheoli/trefnu eu hamser.

Ymdopi â’u llwyth gwaith.

Dilyn cyfarwyddiadau.

Cyflawni o fewn terfynau amser.

Cyfathrebu gyda’u cydweithwyr.

Cwblhau’r hyn maent i fod i’w wneud.

 

Dyscalcwlia
Cyflwr Mynychder (DU) Priodoleddau Cyffredin Heriau Cyffredin

Dyscalcwlia

Yn ei gwneud yn anodd deall a gweithio gyda rhifau, cyflawni cyfrifiadau a chofio ffeithiau mathemategol.
Tua un o bob 20 o bobl.

Creadigrwydd.

Gallu meddwl yn strategol.

Gallu ymarferol.

Datrys problemau.

Yn aml yn ddarllenwyr eithriadol.

Ysgrifennu a sillafu.

Meddwl sythweledol.

 

Cyfrif am yn ôl.

Rhifyddeg feddyliol wael.

Anawsterau sgiliau.

Anhawster yn deall graffiau neu siartiau.

Rheoli amser gwael.

Anhawster yn defnyddio cymwysiadau fel Excel.

 

Dyslexia
Cyflwr Mynychder (DU) Priodoleddau Cyffredin Heriau Cyffredin

Dyslecsia

Yn effeithio ar lythrennedd a rhai galluoedd a ddefnyddir ar gyfer dysgu, gan gynnwys darllen ac ysgrifennu, cofio a phrosesu gwybodaeth.
Un o bob 10 o bobl.

Gallu da i ddatrys problemau.

Creadigrwydd.

Sylwgar iawn.

Lefelau uchel o empathi

Yn dda am wneud cysylltiadau.

Rhesymu naratif cryf.

Meddwl tri dimensiwn.

Darllen ac ysgrifennu’n araf a drysu trefn llythrennau mewn geiriau.

Cael eu drysu gan lythrennau sy’n edrych yn debyg ac ysgrifennu llythrennau y ffordd anghywir (er enghraifft "b" a "d").

Sillafu gwael neu anghyson.

Deall gwybodaeth o’i derbyn yn llafar, ond cael anhawster gyda gwybodaeth sydd wedi’i hysgrifennu.

Anhawster i gyflawni dilyniant o gyfarwyddiadau.

Anhawster i gynllunio a threfnu.

 

Dyspracsia

Cyflwr Mynychder (DU) Priodoleddau Cyffredin Heriau Cyffredin

Dyspracsia

Yn effeithio ar gydsymudiad a chydbwysedd corfforol.

Fe’i gelwir hefyd yn anhwylder cydsymud datblygiadol (DCD).
Mae’n effeithio ar hyd at un o bob 10 o bobl.

Gweithgar ac fel arfer yn llawn cymhelliant.

Unigolion penderfynol iawn gyda photensial gwych yn y gweithle.

Meddylwyr gwreiddiol creadigol.

Datryswyr problemau technegol da.

Gallu i ddatblygu eu strategaethau eu hunain i oresgyn anawsterau.

Gallu i gynllunio dilyniannau o symudiadau.

Lletchwithdod canfyddedig.

 

Am ragor o wybodaeth am gyflyrau unigol, gweler yr adran adnoddau.

Beth yw’r manteision o fabwysiadu agwedd gynhwysol at niwroamrywiaeth yn y gweithle?

O ystyried bod cymaint o bobl â chyflyrau niwrowahanol yn y boblogaeth (amcangyfrifir bod tua 15%), bydd bod yn gynhwysol fel cyflogwr yn eich galluogi i ddenu talent newydd gan gynnwys pobl gyda sgiliau amrywiol neu ffyrdd gwahanol o weithio.  Bydd eu cefnogi i gyflawni eu potensial a bod yn rhan o weithlu amrywiol yn helpu eich sefydliad i ffynnu.

Mae’r sgiliau y gall unigolion niwrowahanol eu cyfrannu i dîm, yn amodol ar eu cyflwr, yn gynnwys y gallu i:

  • Canolbwyntio, aml-dasgio a/neu bod yn ddigynnwrf o dan bwysau.
  • Meddwl y tu allan i’r bocs i gyfrannu safbwyntiau newydd neu ddulliau gweithredu creadigol.
  • Gallu meddwl yn ddadansoddol.
  • Canolbwyntio ar sylw at fanylder.

Gall timau sy’n cyfuno unigolion gyda gwahanol briodweddau a ffyrdd o feddwl helpu i ysgogi syniadau newydd ac arwain at arloesedd neu ddatrys problemau’n effeithiol.

Mae enwa da hefyd yn agwedd bwysig ac mae cwsmeriaid a chleientiaid yn fwy gwerthfawrogol o wneud busnes gyda sefydliad sy’n gymdeithasol gynhwysol.

Adran 3: Beth gall cyflogwyr ei wneud?

Sut gall cyflogwyr ddenu pobl niwrowahanol i’w sefydliad?

Mae rhai pethau syml i’w hystyried yn cynnwys:

  • Adolygu a mireinio swydd-ddisgrifiadau i roi ymdeimlad clir i ymgeiswyr o beth yw’r swydd.
  • Sicrhau bod unrhyw brosesau recriwtio a thudalennau gwe yn hygyrch i bawb.
  • Datgan yn y swydd-ddisgrifiad a’r hysbyseb y bydd cymorth ychwanegol ar gael i unrhyw ymgeiswyr ag anghenion ychwanegol, gan gynnwys ymgeiswyr niwrowahanol, yn ystod y broses recriwtio.  Gallai cymorth gynnwys cael amser ychwanegol i ddarllen dros gwestiynau cyn y cyfweliad neu ar gyfer profion.
  • Creu pecynnau i ymgeiswyr sy’n cwmpasu agweddau amrywiol o’r broses gyfweld, er enghraifft disgrifiadau clir o sut i gyrraedd lleoliad y cyfweliad/asesiad (yn ddelfrydol gyda chiwiau gweledol) a beth i’w ddisgwyl yn y cyfweliad, gan gynnwys gyda phwy y byddant yn cwrdd, yn ogystal â hyd a fformat y cyfweliad.
  • Gallai cyflogwyr hyd yn oed gynnig cyfle i ymgeiswyr ddod yn gyfarwydd â’r cyfwelwyr cyn dyddiad y cyfweliad.
  • Gweithio gydag ymgeiswyr i ddeall pa gymorth, os o gwbl, y byddant ei angen pe byddent yn cael eu penodi.
Sut gall cyflogwyr gefnogi a chadw pobl niwrowahanol yn eu sefydliad?

Mae yna ystod o gamau gweithredu y gallai cyflogwyr ystyried eu gweithredu, gan gynnwys:

  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflyrau niwrowahanol ymhlith yr holl staff.
  • Darparu hyfforddiant i reolwyr llinell ar gefnogi a rheoli cydweithwyr â chyflyrau niwrowahanol er mwyn cynyddu eu gwybodaeth, sgiliau a hyder.
  • Creu diwylliant cadarnhaol a chefnogol sy’n cyfleu neges glir am gynwysoldeb a’r gwerth o gael gweithlu amrywiol.  Bydd hyn yn helpu i greu amgylchedd diogel i gyflogeion ddatgelu a thrafod unrhyw anghenion ychwanegol gyda’u rheolwr llinell.

Mae’n bwysig gweithio gyda chyflogeion niwrowahanol er mwyn deall pa gymorth, os o gwbl, sydd ei angen arnynt yn y gweithle.  Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cynhyrchu offer defnyddiol i gynorthwyo trafodaethau am asesiadau o’r enw’r Pasbort Addasu Iechyd Gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo’r unigolyn a’u rheolwr i nodi pa help a newidiadau sydd ar gael i’w helpu yn y gweithle.

Gellid ystyried ystod o addasiadau i gyflawni anghenion cyflogai.  Er enghraifft:

  • Gall hyn gynnwys addasiadau i’r amgylchedd synhwyraidd, er enghraifft darparu gofod tawel i weithio, clustffonau canslo sŵn neu gymhorthion synhwyraidd eraill.
  • Gall technoleg gefnogol fod yn ddefnyddiol, er enghraifft darllenwyr sgrin a meddalwedd adnabod llais, dyfeisiau cymorth darllen, cymhorthion cof er enghraifft recordwyr ac amserwyr digidol, a meddalwedd gwirio sillafu a rhagweld geiriau electronig.
  • Helpu i leihau pethau a all dynnu sylw, er mwyn gwella ffocws a’r gallu i ganolbwyntio ar dasg, er enghraifft, drwy newid lleoliad neu gyfeiriad gofod desg rhywun.
  • Creu arferion o fewn rôl y swydd pe byddai hynny’n helpu, a lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Caniatáu amser ychwanegol i gwblhau tasgau neu hyfforddiant ac yna holi i weld a oes angen cymorth ar unigolyn i ddeall unrhyw ran o’u gwaith.
  • Darparu cyfarwyddiadau, terfynau amser neu ddisgwyliadau penodol a’u rhoi ar bapur.

Gellid hefyd ystyried creu system cyfaill yn y gweithle, yn arbennig ar gyfer staff newydd, trwy baru unigolion â ‘chyfaill’ sydd hefyd yn nodi bod ganddynt allu gwahanol ac sy’n aelod sefydledig o’r sefydliad.

Bydd y system hon yn galluogi pobl niwrowahanol i:  

  • Ymgartrefu yn eu rôl ac yn y sefydliad mor gyflym ac effeithiol â phosibl drwy ddarparu cymorth un i un anffurfiol a chyfeillgar gan gyfaill.
  • Trafod anghenion a hoffterau unigol yn fwy hyderus ar gyfer ffyrdd o weithio gyda’u rheolwr llinell, fel yr amlinellwyd uchod.
  • Teimlo eu bod wedi’u cefnogi i ofyn am a sicrhau addasiadau rhesymol.
  • Llywio drwy’r broses Mynediad i Waith lle y bo’n briodol.
  • Cysylltu â chymorth arall yn y sefydliad, gan gynnwys unrhyw rwydweithiau staff.
Sut y gall cyflogwyr sicrhau bod eu sefydliad yn ymrwymedig i greu diwylliant niwrowahanol cadarnhaol?
  • Sicrhau  bod y cymorth a’r ymrwymiad i fod yn gyflogwr cynhwysol yn weladwy.  Er enghraifft:
  • Creu a darparu gofod diogel ar gyfer gallu codi materion o bryder, cynnig cymorth a rhannu gwybodaeth.
  • I sefydliadau mwy, ystyried sefydlu rhwydwaith staff sy’n rhannu gwybodaeth ac sy’n cymryd camau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gyffredinol yn ogystal â  nodweddion gwarchodedig unigol, gan gynnwys niwroamrywiaeth. Gweler Canllawiau CIPD yma.
  • Dod yn gyflogwr Hyderus o Ran Anabledd (cynllun y llywodraeth a ddyluniwyd i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd).
  • Dod yn aelod o Purple Space (hwb datblygu proffesiynol ar gyfer arweinwyr rhwydweithiau anabledd).
  • Sicrhau bod arferion a pholisïau’r gweithle yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Gallai hyn olygu, er enghraifft, newidiadau i ffordd o weithio unigolyn a fydd yn gwneud rôl y swydd yn fwy hylaw.  Enghraifft o hyn fyddai caniatáu mwy o seibiannau neu weithio hyblyg.
  • Darparu canllawiau clir ar arferion cyffredinol y gweithle:
  • Rheolau am fannau tawel a synau uchel.
  • Opsiwn i droi’r camera i ffwrdd ar alwadau fideo.
  • Caniatáu i gyflogeion gael seibiannau rhwng tasgau neu yn ystod cyfarfodydd er mwyn gallu ymestyn neu symud o gwmpas.
  • Osgoi negeseuon e-bost hir a chopïo pobl yn ddiangen mewn negeseuon e-bost.
  • Ymgymryd â mentrau niwroamrywiaeth, er enghraifft codi ymwybyddiaeth drwy ddefnyddio diwrnod neu wythnos ymgyrch (gweler adran 5), i helpu i greu diwylliant positif lle bydd staff niwrowahanol yn teimlo’n fwy cyfforddus.  Bydd hyn yn eu helpu i gyflawni eu nodau a bod yn llwyddiannus yn eu gwaith.
  • Annog cyflogeion i ddefnyddio rhaglenni cymorth i gyflogeion neu wasanaethau iechyd galwedigaethol pan fydd hynny’n berthnasol a phan fyddant ar gael.