Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyflwyniad

Mae hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a gweithredu polisïau ac arferion sy'n cefnogi hynny, yn elfennau hanfodol ar gyfer creu gweithle a gweithlu hapus ac iach. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn golygu creu amgylcheddau a diwylliannau gwaith lle gall pawb, waeth beth fo'u cefndir neu hunaniaeth, deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i gyflawni o'u gorau.

Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth, arweiniad a dolenni i wybodaeth bellach i gyflogwyr ystyried eu harferion presennol a nodi ffyrdd o ddod yn fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol.

Beth yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?

Mae cydraddoldeb yn golygu trin pob person yn y gymdeithas yn deg a sicrhau ein bod i gyd yn cael yr un cyfleoedd er gwaethaf ein gwahaniaethau. Mae'n golygu peidio ag eithrio neu drin unrhyw un yn llai ffafriol. Yn y DU, y gofynion cyfreithiol ar gyflogwr yw:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cyflog cyfartal, h.y. talu dynion a menywod yr un fath am wneud yr un swyddi (neu swyddi cyfwerth).
  • Peidio â gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr neu staff o ran buddion, dyrchafiad a materion eraill yn y gweithle.
  • Gwneud popeth rhesymol bosibl i atal pobl eraill rhag gwahaniaethu ac aflonyddu ar weithwyr yn y gweithle. Gellir cyflawni hyn drwy gael y polisïau cywir ar waith, darparu hyfforddiant digonol a dangos arweiniad cryf a chadarn.

Mae amrywiaeth yn golygu cydnabod ein bod ni gyd yn wahanol mewn amrywiaeth o ffyrdd gweladwy ac anweladwy, gan gynnwys cefndir a diwylliant. Mae hefyd yn cydnabod gwerth creu gweithlu â chynrychiolaeth o bobl â chefndiroedd gwahanol ac sy'n dathlu'r amrywiaeth hon.

Mae cynhwysiant yn golygu creu amgylchedd lle mae pawb, waeth beth fo'u cefndir neu hunaniaeth, yn cael eu croesawu, eu parchu, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u grymuso i fod yn nhw eu hunain a ffynnu yn y gwaith.

Nodweddion Gwarchodedig

Mae naw nodwedd a warchodir yn gyfreithiol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr. Mae hyn yn wir boed trwy wahaniaethu ac aflonyddu uniongyrchol neu anuniongyrchol oherwydd unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig isod.

Indirect Discrimination | Equality, Diversity & Inclusion (cam.ac.uk)

 

Pwysigrwydd gweithredu ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae angen ystyried a chymryd camau gweithredu pellach ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i atal a mynd i'r afael â gwahaniaethu, bwlio ac aflonyddu mewn llawer o sefydliadau o Fôn i Fynwy. Er bod y Ddeddf Cydraddoldeb ar waith ers blynyddoedd lawer, mae ymchwil yn dangos bod pobl â nodweddion gwarchodedig yn dal i wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle. Er enghraifft:

  •  Yn 2018, dywedodd dros draean o weithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT) Cymru eu bod yn cuddio neu'n celu eu rhywioldeb yn y gwaith oherwydd ofn gwahaniaethu.
  • Yn 2021, 64.6% oedd cyfradd gyflogaeth grwpiau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol Cymru, sydd tua 8% yn is na phobl wyn (72.7%).
  • Roedd un o bob pum mam wedi profi aflonyddu neu sylwadau negyddol yn y gwaith yn 2016.
  • Tra bod 72.8% o bobl heb grefydd a 72.6% o Gristnogion wedi'u cyflogi yng Nghymru yn 2020-21, cyfradd gyflogaeth gyfunol pobl o grefyddau eraill (gan gynnwys Bwdhyddion, Hindŵiaid, Siciaid, Iddewon, a chredoau eraill) oedd 59.3%.
  • Dim ond 47% o bobl anabl yng Nghymru oedd wedi'u cyflogi yn 2021, o gymharu ag 80% o bobl nad ydynt yn anabl, sy'n cyfateb i fwlch o 33%.
  • Yn 2021, y gwahaniaeth mewn enillion cyfartalog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl oedd 11.6%.

Camau gweithredu i gyflogwyr 

Bydd y camau canlynol yn helpu cyflogwyr i gydymffurfio â chyfreithiau cydraddoldeb y DU ac i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gweithle. Mae mwy o arweiniad ac adnoddau ar bynciau penodol i'w gweld yn yr adran adnoddau.