Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ac Adnoddau i Gyflogwyr

Mae'r adran hon yn manylu ar amrywiaeth o wybodaeth, adnoddau a chyngor arferion da pellach y gall cyflogwyr eu defnyddio i ddeall, hyrwyddo a chefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle. Darperir gwybodaeth sylfaenol yn gyntaf ac yna gwybodaeth pwnc-benodol.

ACAS

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) ganllawiau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, sy’n cynnwys cyngor ar atal gwahaniaethu ac aflonyddu.

CIPD

Mae'r CIPD yn darparu arweiniad cyffredinol ar arferion recriwtio a mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu yn y gwaith, ynghyd â thaflenni ffeithiau sy'n mynd i'r afael â phob nodwedd warchodedig.

Diverse Cymru

Elusen gofrestredig sydd â gweledigaeth i helpu i greu cenedl heb ragfarn na gwahaniaethu. Ceir trosolwg o’r maes cydraddoldeb yng Nghymru gan y Comisiwn Cydraddoldeb ac Adnoddau Dynol sy’n cwmpasu agweddau ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n helpu cyflogwyr a busnesau i gynyddu amrywiaeth a lleihau anghydraddoldeb.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Gwybodaeth a chanllawiau ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail oedran a Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cyngor ac arweiniad cyfreithiol am hawliau cyfartal a ddarperir fel rhan o'u mandad i herio gwahaniaethu, ac i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Mae gwybodaeth am hawliau staff anabl a mamau newydd a darpar famau mewn perthynas â’u nodweddion gwarchodedig ar gael yng nghanllawiau HSE ar gyfer staff anabl a mamau newydd a darpar famau.

National Equality Standard (NES)

Safon amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant fwyaf blaenllaw'r DU. Mae'r NES yn darparu argymhellion a ategir gan gynllun gweithredu, yn seiliedig ar ystorfa o arferion gorau, sy'n manylu ar sut i sicrhau cydymffurfiaeth lawn yn erbyn y naw nodwedd warchodedig gyfreithiol.

Hil

Action for Race Equality UK (ARE)

Mae ARE yn hyrwyddo tegwch, herio gwahaniaethu a chynnig atebion arloesol i rymuso pobl ddu, Asiaidd a threftadaeth-gymysg trwy gyfrwng addysg, hyfforddiant a menter.

Race Equality First

Sefydlwyd Race Equality First i weithio tuag at yr egwyddor o gydraddoldeb a chreu cymdeithas deg a chyfiawn, ac mae yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau pwrpasol i helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb.

Race Council Cymru

Corff ymbarél cyffredinol a sefydlwyd gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn cynllunio ac yn darparu rhaglenni, hyfforddiant, digwyddiadau a gweithgareddau allweddol. Y corff ymbarél i sefydliadau yng Nghymru i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.

Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru

Cefnogi lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Oedran

Cyngor Age Cymru

Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor ar faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.

British Menopause Society

Yr awdurdod arbenigol ar gyfer menopos ac iechyd ôl-atgenhedlu yn y DU. Mae'r BMS yn addysgu, yn hysbysu ac yn arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan weithio ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, ar y menopos a phob agwedd ar iechyd ôl-atgenhedlu.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Cefnogi pobl hŷn ledled Cymru drwy eu tîm Cyngor a Chymorth, sy'n sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn llywio gwaith y Comisiynydd, a bod llunwyr polisïau a phenderfynwyr yn gweithredu ar hynny.

Anabledd

ACAS

Mae ACAS yn darparu cyngor ac arweiniad penodol ar addasiadau rhesymol.

Awtistiaeth Cymru

Llyfryn adnoddau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr awtistig.

CIPD

Mae'r CIPD yn darparu arweiniad penodol ar niwroamrywiaeth yn y gwaith.

Government Equalities Office

Mae wedi paratoi canllawiau ar gyfer cyflogwyr sy’n esbonio dyletswydd cyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer eu staff.

Anabledd Cymru

Anabledd Cymru yw'r gymdeithas genedlaethol o sefydliadau pobl anabl sy'n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb pob person anabl.

Mencap Cymru

Llais anabledd dysgu yng Nghymru. Gall Mencap ddarparu gwybodaeth am ddeall hawliau pobl ag anabledd dysgu a sut i'w cefnogi.

Scope

Scope yw'r elusen cydraddoldeb anabledd yng Nghymru a Lloegr. Mae Scope yn darparu cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i bobl drwy eu llinell gymorth, cymuned ar-lein, rhaglenni ymgysylltu â'r gymuned, partneriaethau a mwy.

Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU yn darparu gwybodaeth am addasiadau rhesymol i weithwyr anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd.

Rhywedd

Menopos yn y Gwaith

Mae ACAS yn darparu gwybodaeth i gyflogwyr ar reoli effeithiau'r menopos, cefnogi staff trwy'r menopos, siarad â staff am y menopos, a'r menopos a'r gyfraith.

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Sefydliad sy'n cefnogi dod â gwahaniaethu ar sail rhyw i ben yng Nghymru lle mae gan bob menyw, dyn a pherson anneuaidd awdurdod a chyfle cyfartal i siapio cymdeithas a'u bywydau eu hunain.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Maternity Action

Dyma elusen hawliau mamolaeth y DU sy'n ymroi i hyrwyddo, amddiffyn a gwella hawliau pob menyw feichiog, mam newydd a'u teuluoedd i gyflogaeth, nawdd cymdeithasol a gofal iechyd.

Ailbennu rhywedd

Trans Aid Cymru

Nod Trans Aid Cymru yw helpu pobl Trawsryweddol, Anneuaidd a Rhyngryw drwy gymorth cilyddol. 

Cyfeiriadedd rhywiol

Stonewall Cymru

Darparu cyngor ar arfer gorau i gefnogi staff LHDT+ gan gynnwys trwy eu rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth.

 

Podlediadau

Podlediadau ACAS

Mae ACAS wedi cynhyrchu podlediadau Saesneg sy'n trafod pynciau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys dathlu bywydau pobl dduon yn y gweithle a sut i gefnogi gweithwyr anabl.

Podlediadau CIPD

Mae gan CIPD gasgliad o bodlediadau Saesneg ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys LDHT+ yn y gwaith, gweithwyr niwroamrywiol a mynd i’r afael â hiliaeth.

 

Addewidion a Rhaglenni

Gall sefydliadau wneud ymrwymiad cyhoeddus i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gweithle. Mae addewidion yn offeryn defnyddiol wrth ddarparu rhagor o wybodaeth a chryfhau eich dealltwriaeth ar bynciau amrywiol.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd – GOV.UK (www.gov.uk)   

Dyma gynllun gan lywodraeth San Steffan i annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella'r ffordd maen nhw'n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl. Fe'i datblygwyd gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl i'w wneud yn drylwyr ond yn hygyrch, yn enwedig ar gyfer busnesau llai.

Centre for Ageing Better – Age Friendly Employer Pledge

Mae'r addewid hwn ar gyfer cyflogwyr sy’n ymrwymo i werthfawrogi pwysigrwydd gweithwyr hŷn yn y gweithle.

Wellbeing of Women – Menopause Workplace Pledge

Mae Wellbeing of Women yn gofyn i gyflogwyr ymrwymo i weithleoedd mwy cyfeillgar i'r menopos trwy ymrwymo i'w haddewid o weithredu cadarnhaol.

Miscarriage Association – The Pregnancy Loss Pledge

Mae'r Gymdeithas wedi annog cyflogwyr ledled y DU i ymrwymo i gefnogi staff sydd wedi cam-esgor.

Inclusive Employers Standard (IES)

Inclusive Employers yw'r sefydliad aelodaeth cyntaf yn y DU i gefnogi cyflogwyr sydd am greu gweithleoedd mwy cynhwysol. Gall cyflogwyr ddangos eu hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy’r Inclusive Employers Standard. Mae’r angen talu ffi i ymuno â’r cynllun, felly efallai na fydd yn addas i bob sefydliad.

Race Alliance Wales - Maniffesto Cymru Wrth-hiliol

Gallwch addo eich cefnogaeth i Gymru wrth-hiliol drwy gymeradwyo maniffesto Race Alliance Wales. Mae'r Maniffesto’n cyflwyno llwybr ar gyfer sicrhau cydraddoldeb hiliol ac mae'n ymdrin â meysydd allweddol fel cyflogaeth a chynrychiolaeth.

 

Dyddiadau allweddol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae'r canlynol yn ddyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol yn ystod y flwyddyn. Gall yr ymgyrchoedd hyn fod yn 'begiau' defnyddiol ar gyfer gweithgareddau yn y gweithle a chodi ymwybyddiaeth, ac maent yn darparu adnoddau da yn aml i gyflogwyr eu defnyddio gyda'u staff.

Mis Ymgyrch
Chwefror

Mae Diwrnod Amser i Siarad yn digwydd ar ddydd Iau cyntaf Chwefror

Cynhelir Mis Hanes LHDTC yn ystod mis Chwefror

Mawrth

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth

Dethlir Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Trawsrywedd ar 31 Mawrth yn flynyddol

Mai Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 15 a 21 Mai
Mehefin

Mae Diwrnod Windrush yn cael ei nodi ar 22 Mehefin

Cynhelir Wythnos Anableddau Dysgu ym mis Mehefin

Diwrnod Balchder Awtistig yw 18 Mehefin

Awst Cynhelir Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd ym mis Awst
Medi

Mae Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi

Cynhelir Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn ystod wythnos olaf mis Medi

Hydref

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei gynnal ym mis Hydref yn flynyddol

Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn cael ei nodi ar 1 Hydref

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref

Cynhelir Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith yn ystod mis Hydref

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Menopos ar 18 Hydref

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ym mis Hydref

Mae mis ymwybyddiaeth ADHD hefyd yn digwydd ym mis Hydref

Tachwedd

Mae Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen yn cael ei nodi ar 2 Tachwedd

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd

Mae Mis Anabledd y DU yn rhedeg o fis Tachwedd i fis Rhagfyr bob blwyddyn

Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia yw mis Tachwedd

Diwrnod y Rhuban Gwyn yw 25 Tachwedd

Rhagfyr Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr