Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a Chanllawiau am Gyflyrau Penodol

Gwybodaeth a Chanllawiau am Gyflyrau Penodol
  • ADHD UK

Mae ADHD UK wedi creu pecyn llesiant i helpu pobl ag ADHD yn y gweithle. Mae wedi’i ddylunio i gynorthwyo’r sgwrs rhwng cyflogwr a chyflogai ag ADHD, gyda’r nod o gynyddu cyd-ddealltwriaeth a helpu i nodi addasiadau rhesymol.

  • Awtistiaeth Cymru

Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am awtistiaeth ac yn argymell gwasanaethau a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael ar-lein a ledled Cymru.  Mae yna fideo defnyddiol sy’n esbonio ‘beth yw awtistiaeth’ ac ystod o adnoddau y gellir eu lawrlwytho a ddatblygwyd gyda phobl awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.

  • Awtistiaeth: Cyngres Undebau Llafur (TUC) Cymru

Mae gan TUC Cymru Becyn Cymorth Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn y Gweithle.

  • Cymorth Dyslecsia Cymru

Mae Cymorth Dyslecsia Cymru yn cynnig gwybodaeth a chysylltiadau i rieni, gofalwyr, addysgwyr, cyflogwyr, busnes ac asiantaethau’r trydydd sector.  Maent yn gweithio ledled Cymru, yn helpu unigolion â dyslecsia i gyrraedd eu potensial llawn.

  • Cymdeithas Dyslecsia Prydain

Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar ddyslecsia a dyscalcwlia a phecyn offer i gyflogwyr ar weithleoedd sy’n ystyriol o ddyslecsia.

  • Dyslecsia, Dyspracsia, Dyscalcwlia a Dysgraffia

Datblygwyd y pecyn offer hwn i reolwyr llinell gan Rwydwaith Dyslecsia a Dyspracsia y Gwasanaeth Sifil i gynorthwyo rheolwyr llinell a’r rhai â dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia a dysgraffia i gael sgyrsiau safonol a gwybodus.  Mae’n cynnwys gwybodaeth am y ‘Pasbort Addasu’r Gweithle’ a ddatblygwyd gan y gwasanaeth sifil.

  • Fforwm Anabledd Busnes: Tourettes ac Anhwylderau Tic

Mae’r Fforwm Anabledd Busnes (BDF) yn sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy’n ceisio hyrwyddo cynhwysiant pobl anabl yn y gweithle.  Mae’n darparu adnoddau, cymorth ac arweiniad i fusnesau i’w helpu i ddod yn fwy deallus ynglŷn ag anabledd, cynnig cyngor ar bynciau fel hygyrchedd, addasiadau rhesymol, recriwtio cynhwysol a chymorth i gyflogeion.

Taflen ffeithiau i gyflogwyr: Syndrom Tourette

  • Fideos ACAS

Mae gan ACAS ystod o fideos byr ar rai cyflyrau niwrowahanol unigol sydd ar gael yma.

  • Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol

Mae’n darparu cymorth, arweiniad a chyngor gan gynnwys gwybodaeth gyffredinol am ystod o bynciau, er enghraifft cyflogaeth a datblygiad proffesiynol.