Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Bellach ac Adnoddau

Niwroamrywiaeth yn y Gweithle

  • Mynediad i Waith

Gall Mynediad i Waith helpu pobl â chyflwr neu nam corfforol neu iechyd meddwl i ddod o hyd i waith neu barhau yn eu gwaith.  Mae’r cymorth a ddarperir yn dibynnu ar angen ac mae’n ystyried y posibilrwydd o wneud cais am grantiau cymorth, er enghraifft ar gyfer cyfarpar arbenigol neu feddalwedd gynorthwyol pan fydd hynny’n berthnasol.

  • Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)

Comisiynodd ACAS adroddiad ymchwil Neurodiversity at Work (2016)  sy’n nodi polisïau ac arferion i helpu i integreiddio pobl ag anhwylderau diffyg canolbwyntio, awtistiaeth, dyslecsia neu ddyspracsia mewn cyflogaeth prif ffrwd.  Mae’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’i gynhyrchu gan y Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR).

  • The Brain Charity

Mae The Brain Charity yn edrych ar gamsyniadau am gyflyrau niwrowahanol, y model anabledd cymdeithasol a buddion niwroamrywiaeth yn y gweithle.

  • Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)

Mae’r CIPD wedi cynhyrchu’r canllaw Neurodiversity at Work ar gyfer gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol ac arweinwyr/rheolwyr eraill sydd eisiau dysgu mwy am bobl niwrowahanol a’u cefnogi i fod yn fwy cyfforddus a llwyddiannus yn y gwaith.  Mae gan y canllaw ddau brif nod: codi ymwybyddiaeth o niwrowahaniaeth yn y gweithle ymhlith cyflogwyr; ac ysbrydoli mwy o gyflogwyr i weithredu.

 

Recriwtio a Chadw

  • Busnes Cymru /Llywodraeth Cymru

Mae'r Canllaw i Gyflogwyr ar Gyflogi Pobl Anabl yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddenu, recriwtio, datblygu a chadw cyflogeion anabl.  Mae hefyd yn rhestru cymorth ac adnoddau sydd ar gael i helpu cyflogwyr i greu gweithlu sy’n gynrychioliadol ac sy’n agored i bawb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, wedi’u cefnogi cyflogi gan Gynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.  Mae cyflogi pobl anabl yn ehangu’r gronfa o dalent sydd ar gael yn y gweithle.

Mae tîm ymgyrch Dewch i Drafod Parch Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu ei animeiddiad cyntaf (2021) – ffilm fer o’r enw Let's Raise the Roof (3 munud 30 eiliad) i ddangos #ModelCymdeithasoloAnabledd.

  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Mae’r Pecyn Offer Siarad yn nodi arfer gorau ar gyfer cefnogi gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor i ddod o hyd i waith ac i barhau yn eu gwaith.

Ymgyrchoedd Ymwybyddiaeth 2024

Mae yna nifer o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a dyddiau dynodedig sy’n canolbwyntio’n benodol ar niwroamrywiaeth a phynciau cysylltiedig ar hyd y flwyddyn.  Mae’r rhain yn aml yn darparu deunyddiau’r ymgyrch a gellir eu defnyddio i nodi a rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth yn y gweithle:

Dyddiad
Ymgyrch
18-24  Mawrth Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth

01-30 Ebrill

02-08 Ebrill 

Mis Awtistiaeth y Byd | Autism Speaks

Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd

18 Mehefin

Diwrnod Balchder Awtistiaeth

07-13 Hydref

Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia

03 Rhagfyr

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Gwybodaeth Gyffredinol

  • Fforwm Anabledd Busnes

Mae’r Fforwm Anabledd Busnes (BDF) yn sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy’n ceisio hyrwyddo cynhwysiant pobl anabl yn y gweithle.  Mae’n darparu adnoddau, cymorth ac arweiniad i fusnesau i’w helpu i ddod yn fwy deallus ynglŷn ag anabledd, cynnig cyngor ar bynciau fel hygyrchedd, addasiadau rhesymol, recriwtio cynhwysol a chymorth i gyflogeion.

  • Y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)

Sefydlu Rhwydweithiau Staff: Mae Canllaw i Sefydlu Rhwydweithiau Staff y CIPD yn cynnig cyngor ymarferol i sefydliadau a’u cyflogeion i sefydlu, gwella neu redeg rhwydwaith effeithiol.  Mae’r canllaw yn cynnwys astudiaethau achos fel enghreifftiau o arfer da.

  • Anabledd Cymru

Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol sefydliadau pobl anabl yng Nghymru, sy’n ymdrechu i hyrwyddo hawliau a chyflawni cydraddoldeb i bob person anabl.

  • Anabledd Dysgu Cymru

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn ceisio sicrhau mai Cymru yw’r wlad orau yn y byd i bobl ag anableddau dysgu i fyw, dysgu a gweithio.  Mae’n darparu gwybodaeth, hyfforddiant a digwyddiadau.

  • Scope

Mae Scope yn elusen cydraddoldeb anabledd sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr.  Mae Scope yn darparu cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i bobl drwy eu llinell gymorth, eu cymuned ar-lein, rhaglenni ymgysylltu â’r gymuned, partneriaethau a mwy.