Neidio i'r prif gynnwy

Imiwneiddio mewn Ysgolion

Mae brechiadau'n achub bywydau ac yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, maent yn atal dros 3 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn. Brechu yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn plant a phobl ifanc yn erbyn afiechyd. 

Mae brechiadau yn eich amddiffyn yn erbyn clefydau niweidiol cyn i chi ddod i gysylltiad â nhw. Maent yn helpu eich system imiwnedd i adeiladu amddiffyniad yn erbyn rhai heintiau peryglus.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych am y brechiadau sy'n cael eu cynnig i blant a phobl ifanc rhwng y dosbarth derbyn a blwyddyn 11 yn yr ysgol (4 i 16 oed) a pham mae eu hangen.

Bydd pob plentyn a pherson ifanc yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd (o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11) yn cael cynnig: 

  • brechiad chwistrell drwynol rhwng mis Medi a mis Mawrth bob hydref neu bob gaeaf.  

Mae ffliw yn feirws sy'n gallu arwain at salwch difrifol a marwolaeth. Ceir brigiadau o achosion ffliw bron bob gaeaf ac mae'r feirws yn newid yn gyson. Bob blwyddyn, mae brechlynnau ffliw yn cael eu newid i gyfateb i'r feirysau ffliw sy'n mynd ar led y flwyddyn honno, fel bod pobl yn cael yr amddiffyniad gorau yn erbyn ffliw.

I gael rhagor o wybodaeth am frechu rhag ffliw, ewch i icc.gig.cymru/brechlynffliw.

Bydd pob person ifanc (bechgyn a merched) ym mlwyddyn 8 (12 i 13 oed) yn cael cynnig: 

  • brechiad feirws papiloma dynol (HPV). Mae'r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn bechgyn a merched yn erbyn canserau sy'n gysylltiedig â HPV fel:
    • canser ceg y groth (mewn menywod)
    • rhai canserau'r pen a'r gwddf
    • rhai canserau'r anws, a
    • rhai canserau yn ardal yr organau cenhedlu (er enghraifft y pidyn, y wain a'r fwlfa).

Mae HPV yn byw ar y croen ac yn cael ei ledaenu drwy gyswllt croen â chroen. Mae cael y brechlyn fel person ifanc yn amddiffyn yn erbyn risgiau yn y dyfodol.

Mae canserau'r pen a'r gwddf yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion, gyda thua 700 o  ddynion yn cael diagnosis yng Nghymru bob blwyddyn.

Canser ceg y groth yw'r math mwyaf cyffredin o ganser mewn menywod o dan 35 oed a gall fod yn ddifrifol iawn.

I gael rhagor o wybodaeth am frechu rhag HPV, ewch i icc.gig.cymru/brechlynHPV.

Bydd pob person ifanc ym mlwyddyn 9 (13 i 14 oed) yn cael cynnig y canlynol:

  • Brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau (tetanws, difftheria a pholio (Td/IPV)). Mae'r brechlyn Td/IPV yn cwblhau'r cwrs 5 dos a fydd yn rhoi amddiffyniad gydol oes i'r rhan fwyaf o bobl yn erbyn tetanws, difftheria a pholio. 
  • Brechlyn meningococol (Men) ACWY (MenACWY). Dyma'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn yn erbyn llid yr ymennydd a septisemia a achosir gan bedwar grŵp o facteria meningococol – A, C, W ac Y. 

Bydd y brechlynnau hyn yn cael eu cynnig naill ai ym mlwyddyn ysgol 9 neu gan feddyg teulu eich plentyn. Os yw eich plentyn yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, bydd y brechiadau hyn ar gael gan ei feddyg teulu yn unig. 

I gael rhagor o wybodaeth am y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1, ewch i icc.gig.cymru/brechlyn3mewn1.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechiad MenACWY, ewch i icc.gig.cymru/brechlynMenACWY.

A oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

Bob tro mae brechiadau'n cael eu cynnig yn yr ysgol, bydd ffurflen ganiatâd yn cael ei hanfon atoch i’w llenwi, yn rhoi caniatâd i’ch plentyn gael y brechiad. Mae gan bobl ifanc sy'n deall yn llawn beth mae hyn yn ei olygu hawl gyfreithiol i wneud penderfyniad gwybodus i roi eu caniatâd.

Gall plant a phobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol neu sy'n cael eu haddysgu gartref gael yr holl frechlynnau uchod gan eu meddygfa pan fyddant yn ddyledus.

MMR

Mae'n syniad da gwirio bod yr holl imiwneiddio arall yn ystod plentyndod yn gyfredol, gan gynnwys MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela). 

Mae'r frech goch, clwy’r pennau a rwbela yn glefydau heintus iawn sy'n gallu lledaenu'n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi'u brechu. Gall y clefydau hyn arwain at gymhlethdodau meddygol difrifol, a allai fod yn angheuol, gan gynnwys llid yr ymennydd, enseffalitis (chwyddo'r ymennydd) a cholli clyw. Mae angen 2 ddos o'r brechlyn MMR ar eich plentyn er mwyn iddo gael ei amddiffyn yn erbyn y clefydau hyn. Gallwch wirio eu llyfr coch neu gysylltu â'ch meddygfa i weld a yw eu brechiadau'n gyfredol. Efallai y bydd eich plentyn yn cael cynnig brechlynnau MMR a gollwyd yn yr ysgol. Fel arall, gallant eu cael yn eu meddygfa.

I gael rhagor o wybodaeth am frechu MMR, ewch i icc.gig.cymru/brechlynMMR.

COVID-19

Mae pob person ifanc wedi cael cynnig brechiadau COVID-19. Mae pobl ifanc â chyflyrau iechyd sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o COVID-19 wedi cael cynnig dosau atgyfnerthu hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am frechu COVID-19, ewch i icc.gig.cymru/brechlyncovid.

Imiwneiddiadau eraill

Efallai y bydd pobl ifanc sydd â rhai cyflyrau meddygol (er enghraifft, diabetes ac asthma) yn cael cynnig imiwneiddio ffliw a niwmococol hefyd yn eu meddygfa.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, ewch i 111.wales.nhs.uk, siaradwch â'ch meddyg, y nyrs ysgol neu'r nyrs practis yn eich meddygfa, neu ffoniwch GIG 111 Cymru. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau a gynigir yng Nghymru yn icc.gig.cymru/brechlynnau.  

Mae amserlen sy'n dangos pa frechiadau a gynigir fel mater o drefn yng Nghymru ar gael o icc.gig.cymru/AmserlenGyflawn.

Gallwch gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth yn 111.wales.nhs.uk/AboutUs/Yourinformation.