Mae’r holl wybodaeth yn gywir adeg cyhoeddi.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2024
Cliciwch ar y dolenni yn y grwpiau oedran i gael rhagor o wybodaeth am yr afiechyd y mae pob brechiad yn amddiffyn yn ei erbyn.
8 wythnos oed:
12 wythnos oed:
16 wythnos oed:
12 i 13 mis oed:
2 a 3 blwydd oed a pob plentyn oedran ysgol:
3 blwydd a 4 mis oed:
Blwyddyn ysgol 8 (12 i 13 blwydd oed):
Blwyddyn ysgol 9 (13 a 14 blwydd oed):
65 oed a hŷn:
65 oed a 70 i 79 oed (ac unigolion o 50 oed sydd ag imiwnoddiffygiant difrifol):
Oed 75:
Yr oedran i'w roi | Yr afiechydon mae’n gwarchod rhag eu cael | Brechiad ac enw | Lleoliad arferol1 | |
---|---|---|---|---|
8 wythnos oed |
Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), math b Haemophilus influenzae polio, (Hib) a hepatitis B |
DTaP/IPV/Hib/ HepB |
Infanrix hexa neu Vaxelis |
Clun |
Grŵp meningococol B (MenB) |
MenB |
Bexsero |
Clun chwith |
|
Rotafeirws gastroenteritis |
Rotafeirws |
Rotarix |
Drwy'r geg |
|
12 wythnos oed | Difftheria, tetanws, pertwsis, polio, Hib a hepatitis B | DTaP/IPV/Hib/ HepB | Infanrix hexa neu Vaxelis | Clun |
Niwmococol (13 seroteip) | PCV | Prevenar 13 | Clun | |
Rotafeirws gastroenteritis | Rotafeirws | Rotarix | Drwy'r geg | |
16 wythnos oed |
Difftheria, tetanws, pertwsis, polio, Hib a hepatitis B | DTaP/IPV/Hib/ HepB | Infanrix hexa neu Vaxelis | Clun |
Grŵp meningococol B | MenB | Bexsero | Clun chwith | |
12 i 13 mis oed | Hib/Grŵp meningococol C | Hib/MenC | Menitorix | Rhan uchaf y fraich/clun |
Niwmococol | Brechiad atgyfnerthu PCV | Prevenar 13 | Rhan uchaf y fraich/clun | |
Y frech goch, clwy’r pennau a rwbela | MMR | MMRVaxPRO neu Priorix | Rhan uchaf y fraich/clun | |
Grŵp meningococol B | Brechiad atgyfnerthu MenB | Bexsero | Clun chwith | |
22 a 3 oed a phob plentyn oedran ysgol | Y ffliw (yn flynyddol o fis Medi) | Brechiad ffliw gweithredol byw | Fluenz3 | Dau dwll y trwyn |
3 blwydd a 4 mis oed | Difftheria, tetanws, pertwsis a pholio | dTaP/IPV | Boostrix-IPV neu Repevax | Rhan uchaf y fraich |
Y frech goch, clwy’r pennau a rwbela | MMR | MMRVaxPRO neu Priorix | Rhan uchaf y fraich | |
Blwyddyn ysgol 8 (12 i 13 oed) |
Canser serfigol, rhai canserau y pen a’r gwddw ac ano-genhedlol, a dafadennau gwenerol a achosir gan bapilomafeirws dynol (HPV) | HPV4 (un dos) | Gardasil 9 | Rhan uchaf y fraich |
Blwyddyn ysgol 9 (13 a 14 oed) |
Tetanws, difftheria a pholio | Td/IPV (gwirio statws MMR) | Revaxis | Rhan uchaf y fraich |
Grwpiau meningococol A, C, W ac Y | MenACWY | Nimenrix neu MenQuadfi | Rhan uchaf y fraich | |
65 oed a hŷn |
Y ffliw (yn flynyddol o fis Medi) | Brechiad ffliw anweithredol | Niferus | Rhan uchaf y fraich |
Niwmococol (23 seroteip) | Brechiad polysacarid niwmococol (PCV) | Pneumovax 23 | Rhan uchaf y fraich | |
65 oed
70* Yn ogystal ag unigolion 50 oed a hŷn sy’n ddifrifol imiwnoataliedig5 |
Eryr | Eryr | Shingrix6 | Rhan uchaf y fraich |
70* i 79 oed (*Unigolion sy’n 70 oed cyn 01/09/2023) |
Eryr | Eryr | Zostavax7 (neu Shingrix os caiff Zostavax ei wrthgymeradwyo) | Rhan uchaf y fraich |
Oed 75 | Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) | RSV | Abrysvo | Rhan uchaf y fraich |
1 Os oes angen dau bigiad neu fwy ar unwaith, yn ddelfrydol dylid eu rhoi mewn aelodau gwahanol o’r corff. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid rhoi pigiadau yn yr un aelod o’r corff 2.5cm ar wahân. Am ragor o fanylion, gweler Penodau 4 ac 11 yn y Llyfr Gwyrdd. Oni nodir yn wahanol, rhoddir pob brechlyn i mewn i gyhyr. Gwiriwch benodau perthnasol y Llyfr Gwyrdd ynghylch cyd-weinyddu brechlynnau.
2 Rhaid i blant fod yn 2 oed erbyn 31 Awst i gael brechiad y ffliw fel rhan o’r rhaglen arferol yn yr hydref/gaeaf.
3 Os nad yw Fluenz yn addas, defnyddiwch frechiad ffliw anweithredol addas.
4 Edrychwch ar y bennod berthnasol yn y Llyfr Gwyrdd ar gyfer unigolion sydd angen amserlen 3 dos.
5 Cyfeiriwch at Bennod 28a yn y Llyfr Gwyrdd: Eryr i gael rhagor o fanylion a diffiniad o ddifrifol imiwnoataliedig (Noder- Mae Zostavax yn cael ei wrth gymeradwyo yn y rhai sy’n ddifrifol imiwnoataliedig).
6 Mae angen dau ddos o Shingrix ar unigolion sy’n imiwnogymwys gyda’r ail ddos yn cael ei roi 6 i 12 mis ar ôl y dos cyntaf. Mae angen dau ddos ar unigolion sydd ag imiwnoddiffygiant a rhoddir yr ail ddos 8 wythnos i 6 mis ar ôl y dos cyntaf.
7 Bydd y rhai a oedd yn gymwys i gael Zostavax yn flaenorol yn cael cynnig Zostavax nes bod y cyflenwad wedi dod i ben. Nid yw Zostavax yn addas ar gyfer pobl sydd ag imiwnoddiffygiant difrifol. Cyfeiriwch at Bennod 28a yn y Llyfr Gwyrdd am ragor o fanylion.
Grŵp targed | Oedran ac amserlen | Afiechyd | Brehciadau |
---|---|---|---|
Babanod wedi’u geni i famau wedi’u heintio â hepatitis B |
Ar enedigaeth ac 1 mis oed. |
Hepatitis B | Brechiadau Hepatitis B (Engerix B / HBVaxPRO) |
Babanod mewn ardaloedd o’r wlad lle mae achosion o TB >= 40/100,000 | Ar enedigaeth | Twbercwlosis | BCG |
Babanod gyda rhiant neu daid neu nain wedi’u geni mewn gwlad gyda llawer o achosion2 | Ar enedigaeth | Twbercwlosis | BCG |
Pobl mewn grˆwp risg ar gyfer y ffliw | Rhwng 6 mis a 64 oed | Y ffliw | LAIV i blant 2 i 17 oed. Brechiad ffliw anweithredol i oedrannau eraill neu LAIV os nad yw’r brechiad ffliw anweithredol yn addas |
Grwpiau ychwanegol sy’n gymwys ar gyfer 3 brechiad y ffliw3 | Yn ystod tymor y ffliw | Y ffliw | Brechiad ffliw anweithredol |
Merched beichiog | O 16 wythnos mewn beichiogrwydd | Pertwsis |
Tdap (ADACEL) Os nad yw ADACEL ar gael neu os caiff ei wrthgymeradwyo, rhowch dTaP/IPV (Boostrix-IPV neu Repevax) |
O 28 wythnos o feichiogrwydd | RSV | Abrysvo | |
Dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion | HPV6 | Gardasil 9 |
1 Infanrix hexa neu Vaxelis) sy’n cael ei roi yn 8, 12 ac 16 wythnos. Cymryd gwaed ar gyfer HBsAg i eithrio haint ar ôl 12/13 mis.
2 Lle mae nifer yr achosion blynyddol o TB yn >= 40/100,000 edrychwch ar www.gov.uk/government/publications/tuberculosis-tb-by-country-rates-per-100000-people
3 Cyfeiriwch at Gylchlythyr Iechyd Cymru (CIC) – cylchlythyr blynyddol y ffliw - i edrych ar gymhwysedd.
4 1 dos.
5 2 ddos 6 i 24 mis ar wahân.
6 Edrychwch ar y bennod berthnasol yn y Llyfr Gwyrdd ar gyfer unigolion sydd angen amserlen 3 dos.
Cyflwr meddygol | Yr afiechydon y gwarchodir rhagddynt | Brechiadau gofynnol2 |
---|---|---|
Asplenia neu ddiffyg swyddogaeth y ddueg (gan gynnwys clefyd y crymangelloedd a seliag) | Grwpiau meningococol A, B, C, W ac Y Niwmococol Y ffliw |
MenACWY MenB PCV13 (hyd at ddeg oed)3 PPV (o ddwy oed) Brechiad blynyddol y ffliw4 |
Mewnblaniadau yn y glust, hylif serebrosbinol yn gollwng | Niwmococol | PCV13 (hyd at ddeg oed)3 PPV (o ddwy oed) |
Cyflyrau anadlol a chalon cronig (fel asthma cymedrol i ddifrifol, clefyd cronig yr ysgyfaint, a methiant y galon) | Niwmococol Y ffliw |
PCV13 (hyd at ddeg oed)3 PPV (o ddwy oed) Brechiad blynyddol y ffliw4 |
Cyflyrau niwrolegol cronig (fel clefyd Parkinson neu glefyd motor niwron, neu anabledd dysgu) | Niwmococol Y ffliw |
PCV13 (hyd at ddeg oed)3 PPV (o ddwy oed) Brechiad blynyddol y ffliw4 |
Diabetes | Niwmococol Y ffliw |
PCV13 (hyd at ddeg oed)3 PPV (o ddwy oed) Brechiad blynyddol y ffliw4 |
Clefyd cronig yr arennau (CKD) |
Niwmococol (cam 4 a 5 CKD) Y ffliw (cam 3, 4 a 5 CKD) Hepatitis B (cam 4 a 5 CKD) |
PCV13 (hyd at ddeg oed)3 PPV (o ddwy oed) Brechiad blynyddol y ffliw4 Hepatitis B |
Cyflyrau cronig ar yr iau / afu | Niwmococol Y ffliw Hepatitis A a B |
PCV13 (hyd at ddeg oed)3 PPV (o ddwy oed) Brechiad blynyddol y ffliw4 Hepatitis A a Hepatitis B |
Hemoffilia | Hepatitis A a B | Hepatitis A a Hepatitis B |
Anhwylderau ategol (gan gynnwys y rhai sy’n derbyn therapi atal ategol) | Grwpiau meningococol A, B, C, W ac Y Niwmococol Y ffliw |
MenACWY |
Imiwmoddiffygiant oherwydd afiechyd neu driniaeth | Niwmococol Y ffliw Eryr |
PCV13 (hyd at ddeg oed)3, 5 PPV (o ddwy oed) Brechiad blynyddol y ffliw4 Shingrix (50 oed a hŷn)6 |
1 Nid yw’r rhestr yma’n hollgynhwysfawr. Gellir argymell brechiadau eraill ar gyfer rhai unigolion.
2 Edrychwch ar y bennod berthnasol yn y Llyfr Gwyrdd am amserlen benodol ac am ragor o fanylion.
3 Os yw’r unigolyn rhwng dwy flwydd oed a dan ddeg oed a heb ei imiwneiddio neu wedi ei imiwneiddio’n rhannol rhag haint niwmococol, rhowch un dos o PCV13.
4 O chwe mis oed.
5 I unrhyw oedran sydd ag imiwnoddiffygiant difrifol. Gwiriwch y bennod berthnasol yn y Llyfr Gwyrdd am amserlen benodol ac am ragor o fanylion.
6 Gwiriwch Bennod 28a y Llyfr Gwyrdd: Eryr i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys: diffiniad o wrthimiwnedd difrifol a’r bwlch rhwng y dos cyntaf a’r ail ddos.