Neidio i'r prif gynnwy

Pa frechlyn a gynigir i mi?

Tan yn ddiweddar, rydym wedi dibynnu ar ein holl frechlynnau’n cael eu cynnig heb ffafriaeth i’r 
boblogaeth gyfan o oedolion. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi ystyried y 
cydbwysedd o risgiau a manteision ac wedi rhoi’r cyngor canlynol (gweler rhagor o fanylion dros y 
dudalen).

40 oed a throsodd a phob oedolyn

Mae oedolyn hŷn (gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol 40 oed a throsodd), preswylwyr cartrefi gofal ac oedolion o unrhyw oedran â rhai cyflyrau meddygol yn wynebu risg uchel o gymhlethdodau COVID-19. Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a’r JCVI yn cynghori y dylech barhau i gael unrhyw rai o’r brechlynnau COVID-19 sydd ar gael1. Mae manteision brechu o ran eich amddiffyn rhag canlyniadau difrifol COVID-19 yn drech na’r risg o’r cyflwr prin hwn. Dylech hefyd gwblhau eich cwrs gyda’r un brechlyn a gawsoch ar gyfer y dos cyntaf.

Os ydych yn berson iach rhwng 30 a 39 oed

Yn y sefyllfa bresennol, mae’r JCVI wedi cynghori ei bod yn well i bobl yn y grŵp oedran hwn gael 
brechlyn heblaw AZ. Rydych yn wynebu mwy o risg o ganlyniadau difrifol COVID-19 a byddwch yn cael y budd mwyaf o gael eich brechu os ydych yn hŷn, yn wrywaidd, o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig penodol, mewn rhai galwedigaethau, neu’n ordew. 

Os bydd y sefyllfa’n newid ac rydych yn cael cynnig brechiad AZ efallai y byddwch am fwrw ymlaen ar ôl i chi ystyried y risgiau a’r manteision i chi. Os byddwch yn penderfynu peidio â chael AZ efallai y bydd rhaid i chi aros am ychydig wythnosau i gael brechlyn arall. Bydd hyn yn eich gadael heb yr amddiffyniad y mae’r brechlyn yn ei gynnig a gallwch barhau i drosglwyddo’r feirws. Ystyriwch yn ofalus risg COVID-19 i chi a’ch teulu a’ch ffrindiau cyn gwneud eich penderfyniad. 
Gweler y tabl ar y dudalen nesaf.

Os ydych yn berson iau iach rhwng 18 a 29 oed

Ar hyn o bryd mae’r JCVI wedi cynghori ei bod yn well i bobl o dan 30 oed gael brechlyn heblaw AZ oherwydd bod y risg o haint COVID-19 mor isel . Os ydych yn cael cynnig brechiad AZ efallai y byddwch am fwrw ymlaen ar ôl i chi ystyried y risgiau a’r manteision i chi.

Beth am yr ail ddos?

Os ydych eisoes wedi cael dos cyntaf o frechlyn AZ heb ddioddef y sgil-effaith brin iawn hon dylech gwblhau’r cwrs. Mae hyn yn cynnwys pobl 18 i 39 oed. Disgwylir y bydd dos cyntaf y brechlyn wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad i chi, yn enwedig yn erbyn clefyd difrifol. Bydd cael yr ail ddos yn rhoi amddiffyniad uwch sy’n para’n hirach i chi ac mae’n tueddu i achosi llai o’r sgil-effeithiau cyffredin (gan gynnwys cur pen dros dro).


1 Os oes gennych rai anhwylderau clotiau gwaed prin yna dylech drafod a allwch gael y brechlyn AZ gyda’ch arbenigwr