Mae’n bwysig nodi na fydd y brechlyn yn orfodol a bydd pobl yn gallu dewis a ydynt am dderbyn y brechlyn ai peidio. Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i bobl cyn brechu (a bydd ar gael ar-lein) i roi sicrwydd am ddiogelwch cleifion er mwyn galluogi penderfyniadau hyddysg, a bydd prosesau cydsynio cadarn ar waith i reoli hyn.
Bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma pan gaiff ei chadarnhau.
Mae canllawiau ar sut i gael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan ar dudalen Llywodraeth Cymru yma: