Mae sgil-effeithiau difrifol yn brin iawn, ond os byddwch yn profi unrhyw rai o’r canlynol o tua 4 diwrnod i 4 wythnos ar ôl brechu dylech geisio cyngor meddygol ar frys.
- pen tost/cur pen newydd, difrifol nad yw’n cael ei helpu gan boenladdwyr arferol neu sy’n gwaethygu
- pen tost/cur pen sy’n ymddangos yn waeth wrth orwedd i lawr neu blygu drosodd
- pen tost/cur pen anarferol a all fod ar y cyd â:
- golwg aneglur, cyfog a chwydu
- anhawster gyda’ch lleferydd
- gwendid, teimlo’n gysglyd neu ffitiau
- cleisio neu waedu pigiad pin newydd, heb esboniad
- diffyg anadl, poen yn y frest, chwyddo yn y coesau neu boen cyson yn y stumog