Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n cael fy mrechlyn?

Byddwch yn derbyn gwybodaeth ynghylch pryd a ble i gael eich brechu. Os nad ydych wedi mynd i’ch apwyntiad neu wedi colli eich apwyntiad, cysylltwch â’ch Bwrdd Iechyd lleol neu ewch i’w wefan er mwyn aildrefnu eich apwyntiad.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael eich brechiad ar gael yn: llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19

Ar ddiwrnod yr apwyntiad, gwisgwch ddillad ymarferol fel ei bod yn hawdd cyrraedd rhan uchaf eich braich. Os oes ofn nodwyddau arnoch neu os ydych yn teimlo’n bryderus, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi eich brechlyn. Bydd yn deall ac yn eich cefnogi.

Cadwch eich cerdyn brechu yn ddiogel a sicrhewch eich bod yn mynd i’ch apwyntiad nesaf i gael eich ail ddos.

Mae’n bwysig cael yr holl ddosau a argymhellir o’r brechlyn i roi’r amddiffyniad gorau i chi.