Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae'r brechlyn yn cael ei roi?

Rhoddir y brechlyn fel pigiad yn rhan uchaf y fraich. Bydd y brechlyn yn cael ei roi mewn dau ddos. Mae brechu COVID-19 yn cynnig amddiffyniad da o dair i bedair wythnos ar ôl y dos cyntaf. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell bwlch o wyth i ddeuddeg wythnos rhwng y ddau ddos cyntaf. Mae’n bwysig cael y ddau ddos a argymhellir i amddiffyn eich hun rhag COVID-19.

Yn eich apwyntiad brechu, bydd mesurau llym i atal a rheoli heintiau ar waith.