Neidio i'r prif gynnwy

Pwy fydd yn cael cynnig y brechlyn?

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sef grŵp arbenigol annibynnol, wedi argymell bod y brechlyn yn cael ei gynnig gyntaf i’r rhai sy’n wynebu’r risg uchaf o gael COVID-19 ac o ddioddef cymhlethdodau difrifol os ydynt yn cael COVID-19. Byddwn yn parhau i ddilyn cyngor y JCVI a brechu’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld rhestr flaenoriaeth y JCVI, ewch i: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/cymhwystra-ar-gyfer-y-brechlyn

Mae pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig prif gwrs o frechlyn COVID-19. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y cynnig ar gael i’r rhai nad ydynt eto wedi gallu manteisio ar y brechlyn. Bydd y rhai sy’n gymwys yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu heb fod yn gynt na thri mis ar ôl yr ail ddos.

Mae rhagor o wybodaeth am raglen atgyfnerthu COVID-19 ar gael yn: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/gwybodaeth-i-gleifion

Mae GIG Cymru yn argymell yn gryf eich bod yn cael y brechlyn cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.