Neidio i'r prif gynnwy

Pam y dylwn gael brechlyn COVID-19?

Y brechlyn yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag COVID-19.

Bydd y brechlyn yn lleihau eich risg o fynd yn ddifrifol wael o COVID-19. Gall dal COVID-19 fod yn ddifrifol a gall arwain at gymhlethdodau hirdymor a marwolaeth. Nid yw bod yn iach yn lleihau eich risg o gael COVID-19 a’i drosglwyddo.

Gallwch ledaenu COVID-19 i’r teulu a’r rhai o’ch cwmpas, hyd yn oed os oes gennych symptomau ysgafn iawn neu ddim symptomau o gwbl.

Mae’r brechlyn COVID-19 yn helpu i leihau cyfraddau salwch difrifol ac achub bywydau.

Mae’r nifer a gafodd y brechlyn yn rhan gyntaf y rhaglen frechu wedi bod yn uchel iawn.

Os byddwch am deithio dramor yn y dyfodol, efallai y bydd y wlad rydych yn ymweld â hi yn gofyn i chi brofi eich bod wedi cael eich brechu. Mae cyfraddau COVID-19 yn uwch mewn rhai gwledydd eraill.

Mae brechlynnau’n cynnig gobaith i ni ar gyfer rheoli clefyd COVID-19 ond mae angen cynifer o bobl â phosibl arnom i gael eu brechu er mwyn i hyn weithio orau. Mae pob brechiad yn cyfrif, gan gynnwys eich brechiad chi.