Neidio i'r prif gynnwy

A yw'r brechlynnau'n ddiogel?

Mae diogelwch ac effeithiolrwydd yr holl frechlynnau COVID-19 sy’n cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig wedi’u hasesu’n ofalus gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) cyn cael eu hawdurdodi i’w defnyddio.

Mae diogelwch ac effeithiolrwydd y brechlynnau COVID-19 yn parhau i gael eu gwirio tra byddant yn cael eu defnyddio.

Nid yw’r brechlynnau’n cynnwys organebau sy’n tyfu yn y corff, ac felly maent yn ddiogel i bobl ag anhwylderau’r system imiwnedd. Efallai na fydd y bobl hyn yn ymateb cystal i’r brechlyn.