Neidio i'r prif gynnwy

A oes unrhyw resymau pam na ddylech gael y brechlyn?

Prin iawn yw’r bobl na allant gael y brechlyn COVID-19. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i’r canlynol:

• pobl sydd wedi cael adwaith anaffylactig wedi’i gadarnhau i unrhyw un o gynhwysion y brechlyn

• y rhai sydd wedi cael adwaith anaffylactig wedi’i gadarnhau i ddos blaenorol o’r un brechlyn COVID-19.

Gall pobl sydd â hanes o adwaith alergaidd difrifol i fwyd, cyffur neu frechlyn a nodwyd, neu bigiad pryfed gael unrhyw frechlyn COVID-19, ar yr amod nad yw’n hysbys bod ganddynt alergedd i unrhyw ran o’r brechlyn. Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth y person sy’n rhoi eich brechlyn i chi os ydych erioed wedi cael adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis).

Nid yw’r brechlyn yn cynnwys unrhyw gynhyrchion anifeiliaid nac wy.

Ffrwythlondeb

Nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd y brechlyn COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb mewn menywod neu ddynion. Nid oes angen i chi osgoi beichiogrwydd ar ôl cael brechiad COVID-19.

Rhoddwyd gwybod am adroddiadau prin iawn o syndrom capilari yn gollwng ar ôl brechlyn AstraZeneca mewn unigolion sydd â hanes blaenorol o’r cyflwr hwn. Efallai y cewch gynnig frechlyn COVID-19 arall.

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Argymhellir brechlynnau COVID-19 yn ystod beichiogrwydd. Brechu yw’r ffordd orau o amddiffyn yn erbyn risgiau hysbys COVID-19 yn ystod beichiogrwydd i fenywod a babanod. Mae’r rhain yn cynnwys derbyn menywod beichiog i ofal dwys a genedigaeth gynamserol y babi. Ni allwch chi a’ch babi heb ei eni ddal COVID-19 o’r brechlynnau. Os ydych yn bwydo ar y fron, neu’n bwriadu bwydo ar y fron, gallwch gael y brechlyn COVID-19. Ni ddylech roi’r gorau i fwydo ar y fron er mwyn cael eich brechu rhag COVID-19. Gallwch barhau i fwydo ar y fron fel arfer ar ôl cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/gwybodaeth-i-gleifion/brechu-covid-19-a-beichiogrwydd