Neidio i'r prif gynnwy

A oes sgil-effeithiau eraill mwy difrifol?

Brechlyn COVID-19 Astra Zeneca a chlotiau gwaed prin

Mae cyflwr sy’n cynnwys clotiau gwaed a gwaedu anarferol wedi’i nodi mewn achosion prin iawn ar ôl cael brechlyn Astra Zeneca. Mae hyn yn cael ei adolygu’n ofalus ond nid yw’r ffactorau risg ar gyfer y cyflwr hwn yn glir eto.

I bobl o dan 40 oed heb gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, cynghorir ar hyn o bryd ei bod yn well cael brechlyn COVID-19 arall yn lle brechlyn Astra Zeneca. I gael rhagor o arweiniad, gweler y taflenni ar frechlyn COVID-19 a chlotiau gwaed yn: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/gwybodaeth-i-gleifion/brechu-covid-19-a-chlotiau-gwaed 

Os oes gennych hanes o thrombosytopenia a thrombosis a ysgogir gan heparin (HITT neu HIT math 2), dylech gael brechlyn COVID-19 arall.

Os cawsoch ddos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca, dylech gwblhau’r cwrs gyda’r un brechlyn, oni bai eich bod yn profi anaffylacsis neu thrombosis ynghyd â thrombosytopenia.

Llid y Galon

Ledled y byd, mae achosion o lid y galon (o’r enw myocarditis neu bericarditis) wedi’u nodi’n anaml iawn ar ôl brechlynnau COVID-19. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion hyn wedi bod mewn dynion iau ac fel arfer ychydig ddyddiau ar ôl y brechiad. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl hyn wedi gwella ac yn teimlo’n well ar ôl gorffwys a thriniaethau syml.

Dylech geisio cyngor meddygol ar unwaith os byddwch yn profi:

• poen yn y frest

• prinder anadl

• teimlo’r galon yn curo’n gyflym, yn dirgrynu neu’n curo fel gordd

Os byddwch wedi cael unrhyw rai o’r symptomau uchod ar ôl eich brechiad cyntaf, dylech siarad â’ch meddyg neu arbenigwr cyn cael yr ail ddos.

Os byddwch yn ceisio cyngor gan feddyg neu nyrs, sicrhewch eich bod yn dweud wrthynt am eich brechiad (dangoswch eich cerdyn brechu iddynt os oes modd) er mwyn iddynt allu eich asesu’n iawn.