Neidio i'r prif gynnwy

A oes gan y brechlyn sgil-effeithiau?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechiadau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd bod brechlynnau’n gweithio drwy ysgogi ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac nid yw pawb yn eu cael.

Mae sgil-effeithiau cyffredin iawn yn y diwrnod cyntaf neu ddau yn cynnwys:

• teimlad poenus, trwm a thynerwch yn y fraich y cawsoch eich pigiad ynddi. Mae hyn yn tueddu i fod ar ei waethaf tua 1 i 2 ddiwrnod ar ôl y brechlyn

• teimlo’n flinedig• pen tost/cur pen

• poenau cyffredinol, oerfel, neu symptomau tebyg i ffliw

• cyfog

Efallai y cewch dwymyn ysgafn am ddau i dri diwrnod ar ôl y brechiad, ond mae tymheredd uchel yn anarferol a gall awgrymu bod gennych haint COVID-19 neu haint arall. Gallwch gymryd parasetamol (dilynwch y cyngor ar ddosau a chyfnodau ar y pecyn) a gorffwyswch i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir.

Un sgil-effaith anghyffredin yw chwarennau chwyddedig yn y gesail neu’r gwddf ar yr un ochr â’r fraich lle y cawsoch y brechlyn. Gall hyn bara tua 10 diwrnod, ond os yw’n para’n hirach dylech weld eich meddyg. Os ydych i fod i gael prawf sgrinio’r fron (mamogram) yn yr ychydig wythnosau ar ôl y brechlyn, yna dylech sôn eich bod wedi cael y brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn mynychu.