Bydd brechiad COVID-19 yn lleihau’r siawns y byddwch yn dioddef o glefyd COVID-19. Gall gymryd ychydig wythnosau i’ch corff ddatblygu rhywfaint o amddiffyniad o’r brechlyn.
Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol – efallai y bydd rhai pobl yn dal i gael COVID-19 er iddynt gael brechiad, ond dylai hyn fod yn llai difrifol.
Mae rhaglen frechu’r DU wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda degau o filiynau o bobl wedi’u brechu a miloedd lawer o fywydau eisoes wedi’u hachub.