Ni allwch ddal COVID-19 o’r brechiad. Ond mae’n bosibl dal COVID-19 heb sylweddoli bod gennych y symptomau tan ar ôl eich brechiad.
Symptomau pwysicaf COVID-19 yw ymddangosiad diweddar unrhyw rai o’r canlynol:
• peswch cyson newydd
• tymheredd uchel
• colli, neu newid, yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol
Os oes gennych unrhyw rai o’r symptomau hyn, arhoswch gartref a threfnu i gael prawf.