Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil

Crëwyd y Cyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil fel rhan o Strategaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithio i Wireddu Dyfodol Iachach i Gymru, 2018-2030.

Mae’n dod ag arbenigedd helaeth is-adrannau gwybodaeth iechyd ac ymchwil a gwerthuso ynghyd mewn un Gyfarwyddiaeth gyda swyddogaethau allweddol yn cynnwys

  • cynyddu gallu a galluogrwydd gwyddor data, gwerthuso, ymchwil a gwybodaeth i gefnogi’r sefydliad (a gwasanaethau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru) wrth weithredu ei Strategaeth Hirdymor a sefydlu ethos o wybodaeth fel ased strategol;
  • cyflawni’r cyfrifoldebau statudol yn effeithiol mewn perthynas â gwybodaeth iechyd ac ystadegau swyddogol;
  • sefydlu mecanweithiau i gloddio am, defnyddio ac integreiddio data yn y sefydliad, a data sydd gan bartneriaid eraill, er mwyn rhoi camau ar waith i wella iechyd a llesiant;
  • cefnogi rhanddeiliaid allweddol i ddeall y poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu er mwyn llywio gwelliannau cyffredinol ac wedi eu targedu i iechyd a llesiant trwy ddarparu data buan, ymatebol (y gall unigolion ei drin) a gwybodaeth, ymchwil a thystiolaeth am iechyd y boblogaeth sydd wedi ei chynllunio ymlaen llaw;
  • trwy raglenni gwerthuso ac effaith, datblygu a darparu tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio mewn ffordd ddealladwy a hygyrch wedi ei theilwra i’r gynulleidfa er mwyn deall a chymhwyso effaith gweithredoedd/ymyriadau ar gyfer polisi a chyflawni iechyd y cyhoedd wedi ei dargedu;
  • sefydlu dulliau effeithiol o greu a lledaenu gwybodaeth yn cynnwys datblygu dulliau effeithiol ac arloesol o ddefnyddio llwyfannau gwe a digidol gan ddefnyddio data wedi ei strwythuro a heb ei strwythuro i ddatblygu ymyriadau atal wedi eu targedu a gwella iechyd a llesiant;
  • datblygu swyddogaeth ymchwil buan sydd â ffocws strategol, sydd yn perfformio’n dda ar draws pob maes iechyd y cyhoedd;
  • darparu arweinyddiaeth system i gefnogi datblygu llinell iechyd y cyhoedd academaidd, effeithiol ac uchelgeisiol yng Nghymru; a
  • meithrin gallu a galluogrwydd mewn gwyddor data, gwybodaeth am iechyd y boblogaeth, ymchwil a gwerthuso ar draws y sefydliad, y GIG a gwasanaethau cyhoeddus ehangach.  .

 

Mae'r Gyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil yn cynnwys dwy is-adran: