Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o Bartneriaeth Strategol Hapus

Problemau iechyd meddwl yw prif achos anabledd yn y DU. Mae llesiant meddyliol da yn effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl, gan helpu unigolion i wireddu eu potensial llawn, gwneud dewisiadau iach, ymdopi â'r heriau y maent yn eu hwynebu yn ystod eu bywydau, gweithio'n gynhyrchiol a chyfrannu at eu bywyd teuluol a'u cymunedau. Mae’r rhaglen Hapus yn ddull amlochrog, ar lefel y boblogaeth, sy’n hyrwyddo llesiant meddyliol. Bydd yn cael ei roi ar waith yng Nghymru rhwng 2022 a 2027 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ei nod yw cefnogi llesiant meddyliol ar lefel y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau mewn llesiant meddyliol. Mae’r isadran Ymchwil a Gwerthuso, sydd wedi’i lleoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnal gwerthusiad o un o ffrydiau gwaith Hapus, sef datblygu partneriaeth strategol i ddylanwadu ar lesiant meddyliol ar lefel y boblogaeth. Bydd eich cyfranogiad yn y gwerthusiad hwn yn ein helpu i gael mewnwelediadau gwerthfawr a fydd yn ein helpu i ddeall effeithiolrwydd y bartneriaeth a'i gweithgareddau wrth symud ymlaen.
 
Cyn i chi benderfynu a hoffech gymryd rhan, mae'n bwysig eich bod yn deall pam mae hyn yn cael ei wneud a beth mae'n ei olygu i chi.

Cymerwch amser i ddarllen yr wybodaeth ganlynol a phenderfynwch a ydych am gymryd rhan ai peidio. 

1. Pam mae'r astudiaeth hon yn cael ei chynnal?
Bydd yr astudiaeth hon yn cynnwys cwblhau e-arolwg i ddeall eich barn ar Bartneriaeth Strategol Hapus. Gobeithiwn y bydd cynrychiolwyr o'r holl sefydliadau partner yn cwblhau'r arolwg. Bydd eich cyfranogiad yn y gwerthusiad hwn yn ein helpu i ddeall a yw rhaglen Hapus yn cyflawni ei hamcan o hwyluso cydweithredu a gwell dealltwriaeth o lesiant meddyliol ar draws ei sefydliadau partner. Y canlyniad fydd adroddiad a rennir gan y tîm Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n arwain y gwaith o drefnu Hapus.

2. Pam ydych chi wedi gofyn i mi gymryd rhan?
Rydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan oherwydd eich bod wedi cael eich nodi fel cynrychiolydd yn un o’r sefydliadau sy’n rhan o bartneriaeth strategol Hapus ar hyn o bryd. 

3. Beth fydd yn digwydd?
Anfonir dolen i'r e-arolwg atoch a gallwch ei chwblhau pan fydd yn gyfleus i chi. Bydd yr arolwg yn dechrau drwy dderbyn eich cydsyniad i gymryd rhan, ac yna bydd cyfres o gwestiynau yn dilyn hynny. Dylai gymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych yn dymuno eu hateb. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol a gallwch dynnu'n ôl unrhyw bryd cyn i chi wasgu cyflwyno ar y dudalen olaf. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich ymatebion, bydd y data yn ddienw ac felly ni fydd yn bosibl tynnu eich ymatebion yn ôl.

4. Pa gwestiynau a ofynnir? 
Bydd yr arolwg yn cynnwys rhai cwestiynau cyffredinol i chi am waith eich sefydliad a'ch barn ar Bartneriaeth Strategol Hapus. Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir.

5. Beth yw’r manteision posibl o gymryd rhan?
Drwy gymryd rhan yn y gwerthusiad, byddwch yn helpu i wella ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd partneriaeth strategol Hapus. Bydd hyn hefyd yn helpu i lywio’r ffordd y caiff Hapus ei gyflwyno wrth symud ymlaen, gan gynnwys y ffordd y gall y bartneriaeth fod yn fwy buddiol i’ch sefydliad.

6. Beth yw'r risgiau posibl o gymryd rhan?
Nid ydym yn rhagweld unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Bydd eich ymateb yn ddienw.

7. A oes rhaid i mi gymryd rhan? 
Na, chi sy’n penderfynu a ydych am gymryd rhan ai peidio. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol. Mae croeso ichi stopio ar unrhyw adeg, ac nid oes rhaid ichi roi rheswm.

8. Sut byddwch chi'n diogelu fy ngwybodaeth a beth fydd yn digwydd i'r canlyniadau? 
Mae’n bwysig inni bod eich gwybodaeth i gyd yn ddiogel. Bydd yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn cael ei storio’n ddiogel at ddefnydd gwerthuso, ac mewn modd na fydd yn bosibl gwybod gan bwy y daeth yr wybodaeth honno, yn unol â deddfau Diogelu Data ac yn unol â GDPR.

  • Bydd yr ymatebion a rannwch yn ddienw. 

  • Ni fyddwn yn casglu, nac yn rhannu, unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol.

  • I fodloni gofynion dadansoddi, bydd y data'n cael eu storio ar gyfrifiadur a ddiogelir gan gyfrinair a bydd rheolaethau llym yn eu lle i gyfyngu ar bwy all weld hyn (e.e. at ddibenion dadansoddi neu werthuso cysylltiedig). Bydd y data'n cael eu dileu pan nad oes eu hangen mwyach. 

  • Bydd y data’n cael eu storio yn y fath fodd fel na fydd yn bosibl gwybod pwy wnaeth gyflenwi’r wybodaeth, a mewn modd ddiogel yn unol â GDPR.

  • Unwaith y byddwn wedi gorffen yr astudiaeth, byddwn yn cadw rhywfaint o'r data fel y gallwn wirio'r canlyniadau.

  • Byddwn yn ysgrifennu ein hadroddiadau mewn modd penodol fel na all neb weithio allan eich bod wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth.

  • Unwaith y bydd yr adroddiad wedi’i gwblhau, bydd y data dienw yn cael eu cadw am 6 blynedd, yn unol â GDPR.

Dim ond os bydd mater diogelu yn cael ei rannu ag ymchwilwyr y bydd gwybodaeth a roddwch i ni yn yr arolwg yn cael ei datgelu i'r gwasanaethau perthnasol. Yn yr achos hwn, bydd angen rhannu’r wybodaeth berthnasol gyda’r gwasanaethau perthnasol, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).   

Cyflwynir y canfyddiadau ar ffurf adroddiadau, erthyglau mewn cyfnodolion, cyflwyniadau a digwyddiadau ymgysylltu. Disgwylir y bydd y canfyddiadau ar gael erbyn mis Rhagfyr 2024. Bydd crynodeb o’r canfyddiadau ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os hoffech gopi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. 

9. Pwy sydd wedi adolygu'r gwerthusiad hwn?
Mae’r astudiaeth wedi’i hadolygu a’i chymeradwyo gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

10. Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i gwestiynau?
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr astudiaeth hon, cysylltwch ag aelod o dîm yr astudiaeth.

 

Os oes gennych bryderon am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth hon, dylech siarad ag aelod o'r tîm astudio a fydd yn gwneud ei orau i ateb eich cwestiynau. Os bydd gennych bryderon yn dilyn trafodaeth gyda’r tîm ymchwil, gallwch gysylltu â thîm pryderon Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ddefnyddio’r manylion isod:

Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarllen y daflen wybodaeth hon.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata a gesglir a phrosesir yn ystod yr arolwg.  Mae rhagor o fanylion am ein rhwymedigaethau diogelu data a’ch hawliau i’w gweld yn ein Hysbysiad Preifatrwydd:

Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru