Ymchwil a gwerthuso
Pwy ydym ni
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol profiadol, sy’n defnyddio meddwl beirniadol a thrylwyredd academaidd i gynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio camau gweithredu iechyd cyhoeddus. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd mewn dulliau ansoddol a meintiol, yn defnyddio ystadegau ac yn adolygu tystiolaeth i ateb heriau allweddol sy’n wynebu iechyd pobl Cymru.
Rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid academaidd a sefydliadau elusennol yn ein rhaglenni ymchwil a gwerthuso ac rydym yn bartner arweiniol yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gyda ffocws ar y blynyddoedd cynnar a phenderfynyddion ehangach iechyd.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o brosiectau ymchwil a gwerthuso iechyd cyhoeddus sy’n cynhyrchu tystiolaeth newydd i lywio polisi ac arfer.Rydym yn gweithio ar y cyd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyda sefydliadau academaidd a sefydliadau partner allanol. Rydym hefyd yn awyddus i hwyluso ac ymestyn ein cysylltiadau ymchwil ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol newydd.
Mae’r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn cyhoeddi ac yn cyfrannu at ystod o brosiectau sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau strategol. Rydym yn derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2019-2025). Rydym hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu ymchwil a gwerthuso o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys darparu swyddogaethau rheoli a llywodraethu ymchwil canolog. Rydym hefyd yn rheoli’r Gymuned Ymchwil a Datblygu ac yn cyflwyno’r gynhadledd Ymchwil a Gwerthuso blynyddol ar gyfer iechyd poblogaeth yng Nghymru, gan hwyluso cyfleoedd i gysylltu ymarferwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordebau cyffredin. Am trosolwg o’r gweithgareddau ymchwil ar draws y sefydliad, gweler ein hadroddiad Uchafbwyntiau Ymchwil.
Cysylltu â ni
Cysylltwch os oes gennych gwestiwn i’r tîm, syniad ar gyfer prosiect ymchwil neu werthuso, neu gydweithrediad posibl.
- Swyddfa Ymchwil a Datblygu: [email protected]
- Tîm Gwerthuso ac Effaith: [email protected]
Gweithio ym maes ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae gan yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso nifer o gyfleoedd cyffrous i ymuno â’r tîm.
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol profiadol, sy’n defnyddio meddwl beirniadol a thrylwyredd academaidd i gynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio camau gweithredu iechyd cyhoeddus. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd mewn dulliau ansoddol a meintiol, ystadegau, adolygiadau tystiolaeth i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu iechyd y boblogaeth yng Nghymru.
Rydym yn cydweithio â phartneriaid academaidd a sefydliadau elusennol yn ein rhaglenni ymchwil a gwerthuso ac rydym yn bartner arweiniol yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a phenderfynyddion ehangach iechyd.
Mae’r tîm ymchwil a gwerthuso ehangach yn ymgymryd ag amrywiaeth o ymchwil diddorol mewn meysydd fel cyflogaeth ac iechyd; pobl ifanc ac iechyd meddwl, cydnerthedd a chymunedau; anghydraddoldebau iechyd a deall anghenion y mwyaf agored niwed. Rydym hefyd wedi cefnogi’r gwaith o sefydlu a darparu ymchwil proffil uchel i frechlynnau COVID-19 ledled Cymru.
Rydym yn dîm uchelgeisiol, cyfeillgar a llawn cymhelliant! Dewch i weithio i ni!
Mae’r swyddi hyn yn rhai newydd yn y gyfarwyddiaeth a bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i lunio gwerthusiad cadarn ac effeithiol i wella’r ddealltwriaeth o effaith ac effeithiolrwydd ymyriadau a pholisïau iechyd y cyhoedd.
Mae’r rôl yn adrodd i Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso gan weithio’n agos gyda’r Arweinydd Gwerthuso ac yn gydweithredol gyda’r Tîm Gwerthuso a’r Is-adran Ymchwil a gwerthuso ehangach i ddatblygu atebion gwerthuso arloesol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddefnyddio dulliau cymysg cymhleth priodol (ansoddol a meintiol mewn maes iechyd y cyhoedd ar gyfer dylunio gwerthuso, casglu data, dadansoddi a dehongli. Bydd gennych hefyd gefndir cadarn yn gweithio ym maes data ac ystadegau.