Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio ym maes Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae gan yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso nifer o gyfleoedd cyffrous i ymuno â'r tîm.

Rydym yn dîm amlddisgyblaethol profiadol, sy'n defnyddio meddwl beirniadol a thrylwyredd academaidd i gynhyrchu'r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio camau gweithredu iechyd cyhoeddus. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd mewn dulliau ansoddol a meintiol, ystadegau, adolygiadau tystiolaeth i fynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu iechyd y boblogaeth yng Nghymru. 

Rydym yn cydweithio â phartneriaid academaidd a sefydliadau elusennol yn ein rhaglenni ymchwil a gwerthuso ac rydym yn bartner arweiniol yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a phenderfynyddion ehangach iechyd. 

Mae'r tîm ymchwil a gwerthuso ehangach yn ymgymryd ag amrywiaeth o ymchwil diddorol mewn meysydd fel cyflogaeth ac iechyd; pobl ifanc ac iechyd meddwl, cydnerthedd a chymunedau; anghydraddoldebau iechyd a deall anghenion y mwyaf agored niwed. Rydym hefyd wedi cefnogi'r gwaith o sefydlu a darparu ymchwil proffil uchel i frechlynnau COVID-19 ledled Cymru. 

Rydym yn dîm uchelgeisiol, cyfeillgar a llawn cymhelliant! Dewch i weithio i ni!

Mae’r swyddi hyn yn rhai newydd yn y gyfarwyddiaeth a bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i lunio gwerthusiad cadarn ac effeithiol i wella’r ddealltwriaeth o effaith ac effeithiolrwydd ymyriadau a pholisïau iechyd y cyhoedd.

Mae’r rôl yn adrodd i Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso gan weithio’n agos gyda’r Arweinydd Gwerthuso ac yn gydweithredol gyda’r Tîm Gwerthuso a’r Is-adran Ymchwil a gwerthuso ehangach i ddatblygu atebion gwerthuso arloesol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddefnyddio dulliau cymysg cymhleth priodol (ansoddol a meintiol mewn maes iechyd y cyhoedd ar gyfer dylunio gwerthuso, casglu data, dadansoddi a dehongli. Bydd gennych hefyd gefndir cadarn yn gweithio ym maes data ac ystadegau.