Neidio i'r prif gynnwy

Yr Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn arwain gwaith ymchwil i ddeall profiadau pobl o hunanynysu

Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Asiantaeth Beaufort Research a Healthcare Communications i geisio deall profiadau pobl o hunanynysu a’r cymorth sydd ar gael i helpu eraill yn ystod y pandemig COVID-19. 

Gwyddom ei bod yn hollbwysig dilyn y canllawiau hunanynysu pan fyddwch yn un o gysylltiadau rhywun a gafodd ganlyniad prawf positif ar gyfer y Coronafeirws er mwyn ei atal rhag lledaenu.  Gwyddom hefyd, drwy waith ymchwil, y gall hunanynysu fod yn her.  Dyna pam rydym wedi gofyn i Beaufort Research a Healthcare Communications ein helpu i ddeall y rhesymau pam y gall hunanynysu fod yn her.  Rydym yn awyddus i gael y wybodaeth hon er mwyn gallu ei defnyddio i helpu eraill ledled Cymru yn ystod y pandemig. 

Mae’r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn cynnal dwy astudiaeth wahanol:

  • Arolwg byr drwy neges destun yw ACTS a gynhelir gan Healthcare Communications ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Arolwg dros y ffôn yw CABINS a gynhelir gan Asiantaeth Beaufort Research ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.