Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Iechyd

Nod Is-adran Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yw gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau trwy ddarparu a hyrwyddo’r wybodaeth orau sydd ar gael am iechyd y cyhoedd (tystiolaeth a dadansoddiadau data) mewn ffordd sy’n ysbrydoli, llywio a chynyddu effaith gweithredu’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Timau

Mae’r Is-adran Gwybodaeth Iechyd yn cynnwys: 

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rydym yn darparu gwybodaeth iechyd fel gwybodaeth berthnasol ac amserol yn seiliedig ar ddadansoddiadau data a thystiolaeth sydd wedi cael eu dethol a’u datblygu er mwyn llywio neu ysbrydoli cynllunio, arwain newid neu gyflenwi adnoddau a gweithgareddau iechyd y cyhoedd.

Mae ein gwerth ychwanegol yn seiliedig ar allu:

  • Rhoi ffocws clir ar gyfer gwybodaeth iechyd y cyhoedd o ansawdd uchel, lleihau dyblygu, dileu, a’r angen i fynd at ddarparwyr lluosog er mwyn cael gwybodaeth.
  • Galluogi uniad rhwng ymarfer arbenigol iechyd y cyhoedd a gwybodaeth iechyd arbenigol, sydd yn mynd y tu hwnt i ddarparu ffeithiau a ffigurau yn unig.
  • Cefnogi’r system iechyd y cyhoedd yng Nghymru trwy greu cynnyrch wedi ei deilwra i gael ei ddefnyddio’n effeithiol.

Mae ein gwaith yn seiliedig ar:

  • Ymdrechu bob amser i gyflawni rhagoriaeth, arloesedd ac ansawdd ym maes gwybodaeth iechyd y cyhoedd.
  • Cynyddu’r defnydd o wybodaeth ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd trwy gysylltu ein gwaith â blaenoriaethau iechyd y cyhoedd a meysydd sy’n cael effaith fawr yng Nghymru.
  • Bod yn rhagweithiol yn diffinio materion newydd a welir yn ein gwaith.
  • Hybu, galluogi ac annog ymarfer iechyd y cyhoedd yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Bod yn eglur ac yn hygyrch i’n defnyddwyr, gan weithio’n agos gyda nhw i gwmpasu problemau iechyd y cyhoedd ac ymateb i’w hanghenion.
  • Rhoi cymorth i weithlu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys datblygu sgiliau lle y bo’n bosibl.
  • Cysylltu â sefydliadau perthnasol yng Nghymru, y DU, Ewrop a thu hwnt.