Neidio i'r prif gynnwy

Cynnal gweithredu dan arweiniad y gymuned wrth adfer: dysgu gwersi o'r ymateb cymunedol i COVID-19 yng Nghymru

Cymerwch yr arolwg yma

Mae'r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn cynnal arolwg cenedlaethol o wirfoddolwyr a’r rhai sydd wedi rhoi o’u hamser yn ddi-dâl i helpu eu cymunedau. Rydym wedi comisiynu Strategic Research and Insight Ltd (SRI), sef cwmni ymchwil annibynnol trydydd parti sydd wedi'i leoli yng Nghymru, i gasglu data'r arolwg ar ein rhan, er mwyn i ni allu deall yn well rôl gweithredu dan arweiniad y gymuned mewn ymateb i COVID-19 yng Nghymru ac adfer ohono.Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan y Sefydliad Iechyd, sy'n ymrwymedig i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU.

Ers dechrau’r pandemig, mae'r nifer uchaf erioed o bobl yng Nghymru wedi rhoi o’u hamser am ddim i helpu pobl eraill yn eu cymuned, drwy weithredoedd fel siopa, codi meddyginiaethau, coginio pryd o fwyd neu ddarparu rhyw fath o ofal a chymorth emosiynol.  Gwyddom fod y math hwn o weithredu gwirfoddol ar lawr gwlad yn bwysig iawn o ran meithrin cymunedau cryf a chefnogol ac ar gyfer llesiant unigolion, ac rydym am ddeall yn well beth sydd wedi bod yn digwydd mewn cymunedau ledled Cymru yn ystod y pandemig. Bydd eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaid i ddeall yn well a llywio eu cynllunio tymor byr, canolig a hirdymor er mwyn gwella iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau y gellir cefnogi gwirfoddoli dan arweiniad y gymuned yn well yn y dyfodol.

Dyna pam rydym wedi gofyn i Strategic Research and Insight ein helpu drwy arolwg ar-lein cenedlaethol er mwyn i ni allu deall yn well farn a phrofiadau unigolion sydd wedi cymryd rhan mewn gweithredu i gefnogi’r rhai mewn angen yn eu cymunedau lleol yn ystod y pandemig, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli di-dâl (e.e. drwy sefydliad gwirfoddol), neu gymryd rhan mewn cefnogi eraill mewn ffyrdd llai ffurfiol (e.e. drwy grŵp cymorth cymunedol lleol, neu fel unigolion sy'n cynnig help llaw i gymydog).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am unrhyw un sydd wedi gwirfoddoli – o gymorth seiliedig ar grŵp hyd at gynorthwyo cymydog – i ateb ein harolwg byr er mwyn i ni allu deall yn well sut a pham mae pobl wedi helpu eraill yn eu cymuned mewn ffyrdd gwahanol ers dechrau’r pandemig.

Cymerwch yr arolwg yma

Beth y gellid gofyn i mi ei wneud?

Mae'r arolwg tua 15 munud o hyd ac mae’n cael ei gynnal gan Strategic Research and Insight. Mae'n agored i unrhyw un sydd wedi gwirfoddoli ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020 naill ei mewn ffordd ffurfiol (drwy fenter wirfoddol), neu mewn ffyrdd llai ffurfiol (fel rhan o’ch grŵp cymorth cymunedol ardal leol, neu glwb). Rydym yn gwahodd pobl 18 oed a throsodd, sy'n byw a/neu yn gweithio/neu'n gwirfoddoli yng Nghymru i gymryd rhan.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfrifoldeb statudol i gynnal a chomisiynu ymchwil sy'n darparu gwybodaeth a all ddiogelu iechyd pobl Cymru. I gael gwybodaeth am hyn, ewch i wefan Llywodraeth y DU yma: Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
 

A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Nac oes, eich dewis chi yw p'un a ydych am gymryd rhan ai peidio. Mae llenwi'r holiadur yn gwbl wirfoddol. Rydych yn rhydd i stopio ar unrhyw adeg, ac nid oes rhaid i chi roi rheswm. Ni fydd penderfyniad i stopio yn effeithio ar eich hawliau, unrhyw driniaeth iechyd bresennol neu yn y dyfodol, nac ar unrhyw wasanaethau rydych yn eu derbyn.
 

Beth fyddwch yn ei wneud gyda fy nghanlyniadau?

Hoffem ddefnyddio'r canlyniadau o'r arolwg hwn i sicrhau bod modd grymuso’r gweithredu dan arweiniad y gymuned anffurfiol a ffurfiol ledled Cymru yn well, wedi ei gefnogi a’i gynnal i helpu i ddiogelu rhag rhai o heriau iechyd, cymdeithasol ac economaidd tymor hwy COVID-19. Rydym yn gobeithio y gall canfyddiadau o'r astudiaeth helpu i lywio polisïau yn y dyfodol gyda'r nod o gynnal cymorth hirdymor ar gyfer y trydydd sector a gweithredu dan arweiniad y gymuned.
 

A fydd fy nata yn cael eu cadw'n gyfrinachol?

Mae'n bwysig i ni bod eich holl wybodaeth yn ddiogel. Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn cael ei storio’n ddiogel a’i chadw'n gyfrinachol at ddefnydd ymchwil yn unig, ac mewn ffordd fel na fydd yn bosibl gwybod o ba berson y daeth ohono, yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data ac yn unol â GDPR.

Gallwch ddarllen hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Strategic Research and Insight yma:

Gallwch ddarllen hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Strategic Research and Insight yma:

Cymraeg: Hysbysiad preifatrwydd
Saesneg: Hysbysiad Preifatrwydd

Gellir darllen hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yma:

Cymraeg: Hysbysiad preifatrwydd
Saesneg: Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd gwybodaeth dim ond yn cael ei rhannu ag eraill os byddwch yn datgelu mater diogelu.Mae hyn yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
 

A yw'r prosiect hwn wedi cael ei adolygu’n foesegol?

Mae'r astudiaeth wedi cael ei hadolygu a’i chymeradwyo gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae Pwyllgor Moeseg Cyfadran Ymchwil Gwyddorau Iechyd (FREC) Prifysgol Bryste wedi rhoi cymeradwyaeth foesegol ar gyfer yr astudiaeth hon.
 

I ble y dylwn fynd os bydd gennyf ragor o gwestiynau?

Taflen cwestiynau cyffredin

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm ymchwil ar y manylion cyswllt isod:

Dr Charlotte Grey
Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus
Is-adran Ymchwil a Gwerthuso  
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Cwr y Ddinas 
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ 
02920 104542 

Lucia Homolova
Uwch-swyddog Ymchwil Iechyd Cyhoeddus
Is-adran Ymchwil a Gwerthuso  
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Cwr y Ddinas 
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ 
02920 104538
Lucia.Homolova@wales.nhs.uk

Angus Campbell
Swyddog Gweithredol Ymchwil
Ymchwil Strategol a Dealltwriaeth
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3DQ
0800 255 0165
angus@strategic-research.co.uk