Neidio i'r prif gynnwy

Profiadau Plant a Phobl Ifanc o Geisio Cymorth Iechyd Meddwl – Mae angen eich help arnom

Hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru wybod rhagor am brofiadau pobl ifanc o geisio cymorth iechyd meddwl yng Nghymru drwy lwybrau a darparwyr gwahanol, ac a llwyddwyd i gael gafael ar gymorth ai peidio.

 
Yna bydd y wybodaeth bwysig hon yn cael ei defnyddio i ddweud wrth y rhai sy'n gallu gwneud newidiadau, gwella'r gwasanaethau hyn a'u gwneud yn haws i bobl ifanc gael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt, pryd a sut mae ei angen arnynt.

Rydym wedi comisiynu Asiantaeth SCL (Stop Collaborate and Listen), asiantaeth ymchwil annibynnol a phrofiadol i recriwtio amrywiaeth eang o bobl ifanc (18-25 oed), sydd â phrofiad o geisio a/neu dderbyn cymorth iechyd meddwl yng Nghymru, i gymryd rhan mewn asiantaeth ymchwil newydd.

Rydym am wybod sut beth fu chwilio am gymorth iechyd meddwl fel person ifanc yng Nghymru yn y pum mlynedd diwethaf.

Bydd Asiantaeth SCL yn recriwtio pobl ifanc ac yn cyfweld â nhw ifanc dros y ffôn neu drwy alwad fideo rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2023. Gallwch gymryd rhan yn Gymraeg neu Saesneg - pa bynnag iaith rydych yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.

Rydym am glywed gan bobl sydd wedi ceisio cymorth drwy lwybrau a darparwyr gwahanol (e.e. yn yr ysgol, yn y gwaith, gan elusen, cwnsela preifat neu drwy'r GIG) a chymysgedd o'r rhai a oedd yn gallu neu'n methu cael gafael ar y cymorth yr oedd ei angen arnynt. Mae Asiantaeth SCL dim ond yn gallu cofnodi adborth 30 o bobl ifanc ar gyfer yr astudiaeth hon. Mae'n bwysig bod y grŵp hwn a ddewisir yn adlewyrchu natur amrywiol poblogaeth Cymru (e.e. ar draws pob rhywedd, grwpiau ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, lleoliadau daearyddol a dewisiadau iaith).

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, neu’n adnabod rhywun arall a allai fod eisiau rhannu eu profiadau, mae mwy o wybodaeth a ffurflen gofrestru ar gael ar wefan yr astudiaeth: https://www.adborth-iechyd-meddwl-cymru.co.uk/ 

Efallai y bydd aelodau o Asiantaeth SCL yn cysylltu â chi o'r rhif ffôn canlynol (07960 953627) neu'r cyfeiriad e-bost (cysylltu@adborth-iechyd-meddwl-cymru.co.uk).

Os hoffech siarad ag aelod o dîm prosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru, anfonwch neges e-bost at Lois.Griffiths@wales.nhs.uk neu Enfys.Preece@wales.nhs.uk