Neidio i'r prif gynnwy

Arwain ymchwil i ddeall profiadau o ddefnyddio'r rhyngrwyd i gefnogi eich iechyd

Mae'r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso   yn gweithio gyda DJS Research i ddeall profiadau pobl o ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnolegau digidol eraill i gefnogi eu hiechyd.

Rydym yn gwybod y gall defnyddio'r rhyngrwyd gael effaith fawr ar sut rydym yn byw ein bywydau, gan gynnwys sut rydym yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau sy'n ymwneud â'n hiechyd. Rydym hefyd yn gwybod y gall y ffordd rydym yn defnyddio'r rhyngrwyd ac yn dibynnu arno fod wedi newid yn ystod y pandemig.  

Dyna pam rydym wedi gofyn i DJS Research ein helpu i ddeall sut y mae pobl yng Nghymru yn defnyddio'r rhyngrwyd i gefnogi eu hiechyd, a deall eu profiadau ar-lein yn well. Mae angen i ni ddarganfod hyn fel y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon i helpu eraill ar draws Cymru yn ystod y pandemig.

Beth y gellid gofyn i mi ei wneud?

I wneud yr ymchwil mae angen i ni siarad â phobl dros 16 oed sy'n byw yng Nghymru.  Dyma pam efallai eich bod wedi cael galwad ffôn yn ddiweddar i gymryd rhan mewn arolwg ffôn byr.

Mae DJS Research yn gweithio ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Maent yn cysylltu â sampl ar hap o bobl ledled Cymru, gan ddefnyddio rhifau ffôn llinellau tir a symudol.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfrifoldeb statudol i gynnal a chomisiynu ymchwil sy'n darparu gwybodaeth a all ddiogelu iechyd pobl Cymru.

I gael gwybodaeth am hyn, ewch i wefan Llywodraeth y DU yma:

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
 

A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Na, nid oes angen i chi gymryd rhan.  Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae hawl gennych i dynnu'n ôl o'r astudiaeth ar unrhyw adeg heb esboniad a chaiff eich data eu tynnu o'r set ddata. 
 

Beth fyddwch yn ei wneud gyda fy nganlyniadau?

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i wneud argymhellion i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ar sut y gallwn gefnogi iechyd pobl yn well ar y rhyngrwyd.
 

A fydd fy nata yn cael eu cadw'n gyfrinachol?

Byddant, bydd eich holl wybodaeth yn cael ei storio yn unol â chyfreithiau diogelu data.

Bydd yr ymatebion a roddwch yn ddienw.  

Gallwch ddarllen hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr astudiaeth yma:

DJS Research:: Telerau

Gellir darllen hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yma:

yn Gymraeg:  Hysbysiad preifatrwydd

ac yn Saesneg: Privacy Notice 

Bydd gwybodaeth dim ond yn cael ei rhannu ag eraill os byddwch yn datgelu i ni eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niwed.  

Os yw mater diogelu yn cael ei rannu â ni, bydd hyn yn cael ei rannu â'r gwasanaethau perthnasol. Mae hyn yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
 

A yw'r prosiect hwn wedi cael ei adolygu'n foesegol?

Mae'r prosiect wedi cael ei adolygu gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru, a derbyniodd gymeradwyaeth hefyd gan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW).
 

I ble dylwn fynd os bydd gennyf ragor o gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm ymchwil ar y manylion cyswllt isod:

Dr Karen Hodgson
Arweinydd Rhaglen Dealltwriaeth o Iechyd y Boblogaeth
Is-adran Ymchwil a Gwerthuso
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd  CF10 4BZ

029 2022 7744
karen.hodgson@wales.nhs.uk

 

Dr Kate Isherwood
Uwch-ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus
Is-adran Ymchwil a Gwerthuso
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd  CF10 4BZ

kate.isherwood@wales.nhs.uk

 

DJS Research
3 Pavilion Lane
Strines
Stockport
Cheshire SK6 7GH

01663 767 857
contact@djsresearch.com

Gellir gwneud cwynion ffurfiol yn uniongyrchol hefyd i dîm pryderon Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Ffôn: (029) 2010 4294

E-bost: publichealthwales.handlingconcerns@wales.nhs.uk

Swydd: Cyfarwyddwr Gweithwyr Proffesiynol Ansawdd, Nyrsio ac Iechyd Perthynol
Rhif 2 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall 
Caerdydd
CF10 4BZ