Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae profion HPV yn gweithio?

Os na cheir HPV mewn sampl, mae risg isel iawn o ddatblygu canser ceg y groth o fewn 5 mlynedd. Mae hyn oherwydd ei bod yn cymryd tua 10 i 15 mlynedd i ganser ddatblygu ar ôl haint gyda HPV i'r rhai nad ydynt wedi clirio'r feirws yn naturiol. Felly mae'n ddiogel ymestyn y bwlch sgrinio i 5 mlynedd i'r rhai nad oes ganddynt HPV.  

Os ceir HPV yn y sampl, yna caiff y celloedd eu harchwilio drwy ficrosgop i wirio a oes unrhyw newidiadau celloedd (prawf sytoleg). Os oes newidiadau celloedd yn bresennol, bydd y person yn cael ei atgyfeirio i gael archwiliad Colposgopi mewn clinig Bwrdd Iechyd. Os nad oes newidiadau celloedd yn bresennol, gwahoddir y person i gael prawf eildro mewn 12 mis.  Mae hyn am ein bod yn gwybod na all rhai pobl glirio haint HPV, neu maent yn cymryd mwy o amser i'w glirio.  Mae'r bobl hyn yn wynebu risg uwch o ddatblygu newidiadau celloedd a allai arwain at ganser ceg y groth ac felly rhoddir gwiriadau ychwanegol iddynt. Nid oedd y gwiriadau ychwanegol hyn yn digwydd cyn cyflwyno profion HPV; yn flaenorol, byddai'r person wedi cael ei ailwahodd am sgrinio rheolaidd mewn tair blynedd pe na bai unrhyw newidiadau celloedd yn bresennol. Felly mae'n ffordd well i ni nodi ac yna monitro'n agosach y rhai sy'n wynebu risg uwch.  

Ar ôl cyflwyno profion HPV, mae rhagor o wiriadau dilynol i'r rhai sy'n wynebu risg uwch o ddatblygu newidiadau celloedd a allai arwain at ganser ceg y groth, a nifer tebyg o atgyfeiriadau i gael archwiliadau colposgopi.