Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i raglen Sgrinio Serfigol Cymru

Ar 1 Ionawr 2022, estynnodd Sgrinio Serfigol Cymru y bwlch rhwng profion sgrinio serfigol rheolaidd i bobl 25 - 49 oed o dair i bum mlynedd.

Os na cheir HPV yn eich sampl sgrinio serfigol rheolaidd nesaf, byddwn yn anfon eich gwahoddiad nesaf mewn pum mlynedd, beth bynnag fo'ch oedran. Mae hyn oherwydd bod tystiolaeth yn dweud wrthym fod y risg o ddatblygu canser ceg y groth yn isel iawn.