Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n cael profion dilynol ac mae angen sgrinio mwy rheolaidd arnaf. A fydd y newid yn effeithio arnaf?

Bydd y newid yn berthnasol o 1 Ionawr 2022 i bobl sydd wedi'u sgrinio ac sydd wedi cael canlyniadau rheolaidd lle nad yw HPV wedi'i ganfod. Ni fydd unigolion sydd eisoes yn cael gofal mewn colposgopi neu sydd i fod i gael sgrinio serfigol dilynol oherwydd bod HPV wedi'i ganfod yn eu sampl yn cael eu heffeithio gan y newid hyd nes iddynt gwblhau eu profion dilynol a dychwelyd i ailalw rheolaidd ar ôl profi'n negyddol ar gyfer HPV (HPV heb ei ganfod).