Neidio i'r prif gynnwy

Pam nad yw menywod a phobl sydd â cheg y groth yn cael eu gwahodd tan eu bod yn 25 oed?

Ledled y DU, rydym yn gwahodd menywod a phobl sydd â cheg y groth i gael prawf sgrinio serfigol rhwng 25 a 64 oed. Nid argymhellir sgrinio serfigol i unrhyw un o dan 25 oed.  

Mae canser ceg y groth yn brin iawn yn y rhai o dan 25 oed, ac ni ddangoswyd bod sgrinio serfigol yn lleihau achosion o ganser yn y grŵp oedran hwn. Mae newidiadau celloedd yn gyffredin yn y rhai o dan 25 oed; fodd bynnag, bydd y mwyafrif yn dychwelyd i normal ar eu pen eu hunain. Gall sgrinio unigolion o dan 25 oed arwain at bryder a thriniaeth ddiangen o bosibl a allai wneud mwy o niwed na daioni (h.y. mae'r risgiau'n drech na'r manteision). Gall triniaethau mynych ar gyfer newidiadau celloedd gynyddu'r siawns o enedigaeth gynamserol os bydd menyw yn mynd ymlaen i feichiogi. 

Fel arfer, rydym yn anfon gwahoddiad sgrinio ychydig fisoedd cyn pen-blwydd unigolyn yn 25 oed ac maent yn gallu trefnu eu prawf sgrinio serfigol pan fyddant wedi cael eu gwahoddiad; nid oes angen iddynt aros tan eu pen-blwydd yn 25 oed. 

Yn ogystal, bydd y rhai o dan 25 oed ar hyn o bryd wedi cael cynnig y brechlyn HPV yn yr ysgol. Os bydd rhywun wedi cael y brechlyn, yna bydd siawns is o gael HPV. Er gwaethaf hyn, mae'n dal yn bwysig mynychu hyd yn oed os ydynt wedi cael y brechlyn, gan nad yw'n amddiffyn rhag pob math o HPV risg uchel. 

Hyd yn oed os nad yw unigolyn wedi cael y brechlyn HPV, mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad oes angen prawf sgrinio serfigol arnynt cyn eu bod yn 25 oed.  

Os yw unigolyn, waeth beth fo'i oedran, yn profi symptomau fel rhediad anarferol o'r wain, gwaedu rhwng mislifoedd, ar ôl rhyw neu'n dilyn y menopos yna byddem yn cynghori eu bod yn gweld eu meddyg teulu.